Rheolwr meta-data y Llyfrgell yw Lyn Lewis Dafis.
Eglurodd mai dull yw meta-data i sicrhau y gellir edrych ar ffeiliau yn y dyfodol waeth pa ddatblygiadau cyfrifiadurol fydd wedi digwydd yn y cyfamser.
Mae hynny'n sicrhau y gellir edrych ar ffeiliau'r Llyfgell yn y "pump, deg, hanner cant o flynyddoedd nesaf," meddai.
"Mae meta-data yn ein galluogi i sicrhau fod y ffeiliau i gyd ar gael i'r dyfodol - achos mae technoleg cyfrifiaduron yn newid yn gyflym iawn ac os nad ydym yn ymwybodol o beth sydd gyda ni fe allen ni fod mewn pum mlynedd 芒 miloedd o ffeiliau a dim yn bosib eu hagor," meddai.
Rhestr o'r holl glipiau sain
|