91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Canrif y Llyfrgell
Blwyddyn o ddathlu sefydlu un o lyfrgelloedd mawr y byd
Mae 2007 yn garreg filltir o bwys yn hanes y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hithau'n dathlu canmlwyddiant derbyn ei Siartr Brenhinol yn 1907.

Mae nifer o ddigwyddiadau diddorol wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn. gan gynnwys diwrnod agored ar Ionawr 27 pan fydd Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru 2005-6, yn cynnal gweithdai a darlleniadau.

Hefyd, bydd cyfres o deithiau o gwmpas y Llyfrgell yn yn dangos y gwahanol gasgliadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud yno.

Yn bresenniol hefyd bydd dyn tywydd y 91热爆, Derek Brockway.

Cydlynydd y Gweithgareddau Canmlwyddiant ydi Cyril Evans ac mewn llythyr at Gyfeillion y Llyfrgell dywedodd: "Byddwn nid yn unig yn edrych yn 么l dros ein hanes trwy gyfrwng arddangosfeydd a chyda cyhoeddi llyfr ond fe fyddwn hefyd yn cynnal gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo ac yn sicrhau datblygiadau yn y Llyfrgell yn y dyfodol.

Y Llyfrgell Genedlaethol Un o brif ddigwyddiadau'r dathlu fydd arddangosfa'r canmlwyddiant, Yn y Lle Hwn lle bydd hynodion cenedlaethol fel Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Beibl William Morgan yn cael eu harddangos ochr yn ochr 芒 lluniau a ffotograffau a phaentiadau gan arlunwyr blaenllaw fel Kyffin Williams, Turner a David Jones.

Hefyd, cyhoeddir tair cyfrol yn darlunio hanes Cymru wedi ei seilio ar gasgliadau'r Llyfrgell - In This Place / Yn y Lle Hwn gan Trevor Fishlock a Mererid Hopwood.

Traddodi darlith
Hefyd lluniwyd hanes a datblygiad pensaern茂ol y Llyfrgell gan y Dr Rhidian Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.

Ef hefyd fydd yn traddodi Darlith Diwrnod y Llyfr, Dinas a osodir ar fryn : canrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mawrth 1.

Y Llyfrgell hefyd, ar y cyd ag Amgueddfa Cymru - sydd hefyd yn dathlu'i chanmlwyddiant - sy'n rhoi'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint, 2007, yn Yr Wyddgrug fis Awst.

"Ac er mwyn annog a meithrin ieuenctid, mae'r Llyfrgell yn noddi un o brif seremon茂au Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Shir G芒r hefyd," meddai Mr Evans.

Dangosir dwy gyfres deledu ar hanes y Llyfrgell a'i chasgliadau a bu cyfres o raglenni gyda Hywel Gwynfryn ar 91热爆 Radio Cymru.

Bydd y llyfrgell hefyd yn cysylltu 芒 phrif lyfrgelloedd y byd gyda chyfarchion pen-blwydd ar ffurf dwy gerdd a gomisiynwyd gan Gwyneth Lewis.

  • i weld y rhestr gyflawn o weithgareddau.



  • Trefi
    Llyfrau
    Papurau Bro


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy