91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llandysul
Ysmygu Ysmygu yn y Gweithle
Katie Ann Briddon sy'n mynegi barn ar ysmygu yn y gweithle
Cyflwynwyd ysmygu i Ewrop ar ddiwedd y bymthegfed ganrif ond ni ddaeth ysmygu yn arfer torfol tan yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau'r ganrif diwethaf, roedd ysmygu yn cael ei hyrwyddo fel rhywbeth da i'r iechyd. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y mythau hyn yn cael eu tanseilio gan dystiolaeth wyddonol a oedd yn profi effeithiau niweidiol i'r iechyd.

Heddiw, ysmygu yw un o achosion mwyaf salwch ataliol a marwolaeth cyn-amser yng Nghymru. Amcangyfrifir bod ysmygu yn achosi 114,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Mae ysmygu yn gyfrifol am 84% o farwolaethau a achosir gan ganser yr ysgyfaint ac 80% o farwolaethau a achosir gan froncitis ac emffysema. Mae salwch sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn costio 拢1.5 biliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae m诺g tybaco yn cynnwys dros 4,000 o gemegau ar ffurf gronnynau a nwyon. Mae 60 o'r cemegau hyn yn garsionegau hysbys neu dan amheuaeth o fod yn garsionegau. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi datgan bod m诺g tybaco yn yr amgylchedd yr un mor beryglus o wael yn yr aer ag asbestos.

Mae nifer yr ysmygwyr wedi gostwng yn sylweddol dros y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Ym 1974, roedd 50% o'r boblogaeth a oedd yn oedolion yn ysmygu wedi gostwng i 26% heddiw. O'r rhain, mae arolygon amrywiol yn nodi bod oddeutu 70% yn dymuno rhoi'r gorau i ysmygu.

Nid yr afiechyd y mae ysmygu yn achosi i ysmygwyr yw'r prif ddadl dros wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Mae'n ymwneud ag afiechydon y mae'n achosi i'r rhai sydd ddim yn ysmygu oherwydd ysmygu goddefol. e.e. mae y gwrth-ysmygwyr yn amcangyfrif y byddai modd achub 4,800 o fywydau y flwyddyn trwy wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Mae rhai o enghreifftiau ysmygu goddefol yn cynnwys cosi poenus i'r llygaid, pennau tost, peswch, gwddf tost, pendro a chyfog. Gall oedolion sy'n dioddef o asthma ddioddef gostyngiad sylweddol yng ngallu'r ysgyfaint. Yn fwy difrifol, bernir bod y rhai nad ydynt yn ysmygu yn wynebu ysmygu goddefol yn y cartref a'u bod yn 25% yn fwy tebygol o ddioddef clefyd y galon a chanser yr ysgyfaint. O ganlyniad i'r dystiolaeth aruthrol hon, mae 'World Health Organisation' ac 'UNICEF' wedi amlygu'r angen i ddiogeli pobl rhag effeithiau m诺g ail-llaw.

Felly, y sail dros yr angen am ddeddfwriaeth yw'r angen i ddiogeli gweithwyr, yn weinyddwyr, gweithwyr swyddfa, neu staff sy'n gwethio mewn tafarndai. Mae gan gyflogwyr ddylestswydd i ddiogeli eu staff a byddai gwaharddiad yn helpu i ddiogelu 3 miliwn o weithwyr. Mae gan ysmygwyr a'r rhai sydd ddim yn ysmygu yr hawl i ryddid rhag llygredd mwg tobaco.

Gan Katie Ann Briddon, Cross Inn, Llandysul

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Radio Cymru
Trefi
Lluniau


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy