Wrth gyrraedd adref ar 么l bod yn siopa Nadolig yn Llanelli, ac edrych ar yr holl fwyd ar fwrdd y gegin yn barod i fynd i'r cypyrddau gwag edrychais ar y pecynnau. Roedd y rhan fwyaf yn dweud eu bod yn gynnyrch o'r Deyrnas Unedig. Does dim s么n o ba ran o'r wlad mae'r bwyd wedi cael ei gynhyrchu, ac mae pobl yn poeni o ble mae'r cynnyrch yn dod a faint o filltiroedd mae'r bwyd wedi teithio cyn disgyn ar ein pl芒t. Yr ateb felly, hyd y gwela i, yw prynu'n lleol.
Rydym fel trigolion Dyffryn Teifi yn lwcus ein bod yn byw mewn ardal wledig, ac hefyd mewn ardal amaethyddol. Felly, pam nad ydym yn prynu ein cynnyrch yn lleol gan ffermwyr yr ardal?
Ar y teledu yn ddiweddar iawn mae yna lawer o gogyddion enwog yn ein annog i brynu cynnyrch lleol ac i fwyta bwyd yn ei dymor. Pam lai? Mae yna lawer o fanteision o wneud hyn.
I ddechrau rydym yn gwybod o ble mae'r bwyd wedi dod gan ein bod yn prynu'n uniongyrchol o'r cynhyrchwr. Hefyd, wrth fyw yn yr un ardal a lle rydyn ni'n prynu'r bwyd mae yna siawns eithaf da ein bod wedi gweld yr anifeiliaid yn pori, neu'r llysiau yn tyfu yn y caeau. Hefyd, mae yna lawer o bwyslais i brynu'n organig. Nid yn unig gall y ffermwyr lleol gynnig cynnyrch i drigolion Dyffryn Teifi, ond yn Llandysul ei hun mae pedwar t欧 tafarn sy'n gwneud bwyd a dwy ysgol, gallant gyflenwi'r rhain 芒 bwyd hefyd. Bu llawer o s么n gan y cogydd Jamie Oliver yn ddiweddar bod angen bwyd iachus yn ein ysgolion.
Wrth gwrs, mae'n si诺r bod rhai yn edrych ar yr anfanteision. Yn un peth, mae'n debygol y byddai'r cynnyrch yn ddrutach nag yn y siopau ac yn yr archfarchnadoedd. Os am werthu cig yn uniongyrchol i'r cyhoedd byddai angen tystysgrifau iechyd a diogelwch, glendid bwyd ac yn y blaen. Byddai hyn yn gost ychwanegol i'r ffermwr, sydd wrth gwrs yn cael ei basio ymlaen i'r cwsmer.
Efallai er mwyn cael rhannu'r gost hon o ddechrau 'busnes' gwerthu cynnyrch lleol, byddai'n bosibl i'r ffermwyr lleol ddod at ei gilydd. Pam na allant agor siop yn Llandysul neu gynnig marchnad unwaith yr wythnos i werthu'r cynnyrch fel sy'n digwydd mewn rhai trefi cyfagos. Mae marchnad Sefydliad y Merched sy'n gwerthu cacennau jam ac yn y blaen yn boblogaidd iawn. A gyda llawer o adeiladau gwag yn yr ardal, mae'n rhyfedd na fyddai rhywun wedi rhentu neu brynu ar gyfer gwerthu cynnyrch lleol yn rheolaidd.
Ar 么l i'r ffermwyr gael eu cwsmeriaid byddai'n rhaid ceisio eu cadw trwy wneud yn si诺r fod y cynnyrch o safon uchel cyson a chadw'r pris yn gystadleuol.
Faint o alw sydd yna am gynnyrch lleol?
Er bod cogyddion enwog yn ein annog i brynu'n lleol ac er bod llawer un yn cydnabod ei fod yn syniad da, faint fyddai'n barod i adael cyfleustra'r archfarchnad sy'n gwerthu bron popeth ac yn mynd i brynu cynnyrch lleol? Hefyd, faint o bobl fyddai'n fodlon mynd yn ddyfnach i mewn i'w pocedi i brynu cynnyrch lleol? Y dyddiau yma mae'r wraig a'r g诺r yn gweithio, felly y prydau sy'n cael eu cynnig fel arfer yw prydau parod i'w rhoi i fewn i'r microdon. A fyddai cynhyrchwyr lleol yn gallu cynnig hyn i'r wraig sy'n gweithio?
Peth arall, faint o help gan y Llywodraeth neu'r Cyngor fyddai'n bosibl ei dderbyn er mwyn dechrau gwerthu cynnyrch lleol? A fyddai help i gael neu a fyddai rhaid i'r cynhyrchwyr fynd i bocedi eu hunain heb sicrwydd y byddai'r fenter yn gweithio.
I gloi, mae prynu cynnyrch lleol yn gallu gweithio. Mae eisoes yn gweithio dramor - yn Norwy maent yn defnyddio'r fijord leol i bysgota, ffermwyr lleol i gyflenwi cig yn uniongyrchol o'r fferm i'r cigydd lleol. Llaeth i'r llaethwr a llysiau o'r ffermydd neu erddi lleol. Felly pam na all weithio yn y wlad yma? A oes rhaid i gynhyrchwyr y wlad allforio ein cynnyrch o safon i wledydd arall. Pam na all y cynnyrch sydd yn cael ei gynhyrchu yn Nyffryn Teifi gael ei werthu yn Nyffryn Teifi?
gan Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.