Tybed faint ohonoch sydd yn rhuthro adref o'r gwaith neu'r ysgol i wylio Pobol y Cwm, Rownd a Rownd neu Neighbours, Eastenders, Emmerdale neu Coronation Street?
Operâu sebon; rhyfel rhwng y gorsafoedd teledu - pob un ohonynt yn ceisio cael y nifer fwyaf o wylwyr trwy gynnig y cyffro mwyaf. Yn fy marn i mae operâu sebon yn debyg i 'marmite.' Naill ai yr ydych yn dwli eu gwylio nhw neu yn eu casáu.
Dwy opera sebon y byddaf yn eu gwylio yn rheolaidd ydy Pobol y Cwm a Neighbours, ond ni fyddwn yn dweud fy mod i'n ffan mawr o raglenni o'r fath yn gyffredinol.
Mae'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y rhan fwyaf o'r sioeau hyn yn cael eu lleoli mewn stryd e.e. Ramsay Street (Neighbours) neu mewn pentref e.e. Cwmderi, (Pobol y Cwm,) a'r bobl a'r gymuned yn y pentref neu'r stryd hynny sy'n cael eu portreadu.
Mae opera sebon yn trin a thrafod nifer o broblemau bob dydd; dyledion, magu plant a phroblemau mwy difrifol pan mae'r cymeriadau yn dioddef o gancr neu rhywun yn llofruddio, ac yn aml problemau moesol hefyd fel erthyliad, ysgariad a thor-cyfraith.
Yn aml iawn, teimlaf bod yr operâu sebon hyn yn dangos gormod o drais a phroblemau ac mae'n gallu gwneud y rhaglen yn ddiflas. Er hyn, wrth eu gwylio dwi'n teimlo bod y gwaith ymchwil gan yr actorion a'r sgriptwyr yn arbennig. Hefyd mae proffesiynoldeb yr actorion mewn gwahanol sefyllfaoedd yn arbennig. Mae'n gwneud i'r cyhoedd gredu bod yr actor yn dioddef neu yn mynd trwy'r sefyllfa go iawn. Ond a oes rhaid dangos cymaint o fanylder ar y teledu bob amser? Yn fy marn i gall hyn achosi pryder i rai gwylwyr.
A yw operâu sebon yn gallu bod yn ddylanwad drwg ar bobl? Tybed os byddai plentyn yn gweld plentyn ar y teledu yn cael ei fwlio, neu'n ysmygu a fyddai'n cael y syniad i wneud yr un peth mewn bywyd bob dydd? Mae nifer o'r sgriptiau sy'n cael eu dangos ar y teledu yn rhai cryf a realistig, ac mae'n rhaid cofio bod gan y teledu bŵer mawr.
Wrth gwrs, mae'n rhwydd iawn i roi'r bai ar opera sebon, neu raglenni teledu eraill am fod yn ddylanwad drwg, ond yn y pen draw, mae hi fyny i'r unigolyn beth i'w wneud yn eu bywydau. Gyda chymaint o gystadleuaeth ymhlith y sianelu teledu i gael y nifer mwyaf o wylwyr, rwy'n rhagweld taw mwy o storïau sy'n codi gwrychyn ac yn gwthio moesoldeb ymhellach fydd y norm.
Wrth edrych ar yr ochr arall, ac ystyried y dadleuon o blaid y math hwn o raglen deledu, mae opera sebon yn dangos bywyd bob dydd a phroblemau bywyd. Efallai bod hyn yn cynnig cymorth i'r rhai sydd yn dioddef neu wedi dioddef o'r un broblem â'r cymeriad ar y teledu. Ar ddiwedd ambell i bennod bydd rhif ffôn cyswllt yn cael ei roi i'r gwylwyr er mwyn cysylltu i drafod problemau. Enghraifft diweddar o hyn yw stori'r cymeriad Kelly yn dioddef o fwlimia ar Pobol y Cwm.
Mae'r rhai sy'n dilyn operâu sebon yn rheolaidd yn dweud ei fod yn cynnig dihangfa o fywyd bob dydd, trwy gael chwerthin a datrys problemau'r cymeriadau. Gall rhaglen y noson gynt fod yn bwynt trafod yn y gwaith gyda chydweithwyr yn trafod ac yn dyfalu beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf. Os na fyddai opera sebon yn cynnig yr elfen o ddirgelwch a'r sgwrs byddai'n colli gwylwyr.
Wrth gloi, mae'n siŵr gyda phoblogrwydd yr opera sebon, mi fyddan nhw ar ein sgrin am flynyddoedd i ddod, felly y newyddion drwg i mi yw y bydd yn rhaid i mi wrando ar "Welest ti beth ddigwyddodd ar Eastenders neithiwr?" am flynyddoedd i ddod!
gan Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.