Wrth feddwl am ganu gwlad pa enwau sydd yn dod i'ch meddwl? Tammy Wynette? Iona ac Andy? Doreen Lewis, brenhines canu gwlad? Neu beth am John ac Alun?
Ar gyfer ei anrheg Nadolig roedd mam wedi awgrymu'n gryf beth oedd yr anrheg i fod; copi o gryno ddisg John ac Alun 'Hel Atgofion'. Tra bod mam allan yn gweithio fe es allan i brynu a gwrando ar y CD cyn ei roi yn anrheg iddi.
Clawr syml sydd i'r gryno ddisg. Llun y ddau berfformiwr ar y clawr blaen, yn eistedd ar ben carreg, gyda gwyrddni y tu cefn sydd yn awgrymu canu gwlad i mi. Wrth edrych ar y clawr gwelwn eu bod wedi cyflwyno'r CD er cof am Eurig Wyn. Ef hefyd sydd wedi cyfansoddi geiriau i bump o'r caneuon.
Wrth ddechrau gwrando, roeddwn yn disgwyl canu gwlad traddodiadol, ond mae'r gryno ddisg yn hollol wahanol i hynny. Cawn gymysgedd o'r newydd, traddodiadol a rhai caneuon sydd eisoes wedi eu recordio, megis "Mi glywaf y llais" sef un o ganeuon Dafydd Iwan. Emyn yw rhif 14 ar y gryno ddisg, sef "Bydd gyda mi," addasiad Eurig Wyn o'r g芒n "Abide with me." Mae'r g芒n yn dod 芒 dagrau i'r llygaid, hefyd gan wybod bod Eurig Wyn bellach wedi marw. Mae hynny'n gwneud y g芒n yn fwy ingol.
Wrth wrando ar 'Hel Atgofion' am yr ail-waith mae'n rhaid dweud i fi sylwi ar negeseuon tywyll mewn llawer o'r caneuon, ac mae ystyr yn y geiriau. Hefyd, mae curiad y gerddoriaeth am i ni ddihuno ac i guro ein traed. Mewn rhain o'r caneuon cawn guriad nodweddiadol o ganu gwlad, er enghraifft "Dy gofio di."
Mae cynnwys y llyfryn sy'n dod gyda'r CD a'r geiriau yn ysgogi'r gwrandawr i gydganu gyda'r CD.
Rhaid canmol y CD am fod yn broffesiynol iawn, ac wrth weld yr enwau sydd wedi helpu i'w chynhyrchu ni fyddem yn disgwyl llai.
Ar 么l gwrando ar y CD am y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn si诺r os oeddwn yn ei hoffi ai peidio ond, ar yr ail wrandawiad rhaid dweud bod y CD wedi tyfu arnaf. Er hyn, rwy'n teimlo bod y caneuon yn gallu swnio'n ddigalon weithiau. Tybed a yw hyn yn adlewyrchu'r byd yr ydym yn byw ynddo?
Yn fy marn i rydw i yn teimlo bod yna neges Efengylaidd yn y caneuon, a yw'r canwr yn gofyn am ddyfodol gwell? Efallai mai'r caneuon hyn fydd Emynau'r dyfodol. Yn sicr, mi fyddaf yn prynu copi ar gyfer y car.
Gan: Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|