Lluniau o'r daith yma.
Nos Fercher
Chwefror 21ain, 2007
15 ohonom, a 3 athro, yn gadael Llambed am Heathrow i hedfan i Stockholm ac yna i Luleå. Y bwriad? Wel, i fynd ar daith gyfnewid gyda Ysgol Kalix ac i aros gyda teulu merch o'r chweched dosbarth.
Dydd Iau
Wedi teithio trwy'r nos a dydd, dyma ni'n cyrraedd ysgol Kalix am 5.30 y nos a chwrdd â'n hosts! Yr oeddwn i a'm ffrind Angharad yn aros gyda Emelie Johansson a'i theulu, a chawson groeso o'r eiliad gyntaf. Noson dda o gwsg wedi diwrnod blinedig!
Dydd Gwener
Codi'n gynnar i fod yn yr ysgol erbyn 8! Cael taith o amgylch yr ysgol oedd yn cynnwys nifer o wahanol adeiladau arbenigol. Roedd ganddynt salon trin gwallt, adran blymio a stafell gwaith coed. Roedd yr ysgol fel coleg - gallai'r disgyblion fynd a dod fel y mynnent. Cerdded drwy dymheredd o -30°C i dref Kalix i gael gwybodaeth am Kalix Kommun sef Cyngor Tref Kalix. Cawsom wybod am nifer o bethau yn cynnwys gwahanol lefelau'r cyngor, trethi a faint oedd llefydd fel ysbyty Kalix yn cyflogi. Cerddom yn ôl i'r ysgol, ac yr oedd hi hyd yn oed yn FWY oer erbyn hynny!
Cawsom wers arlunio yna gwers seicoleg gan wylio fideo Swedeg! Dal bws i dŷ Mamgu a Thadcu Emelie wedyn, a chael 3 gwahanol fath o gacennau ffein ofnadwy! Casglu tywel a bant â ni i'r sauna. Roedd e'n lyfli! Wedi cael cawod, mas â ni i'r oerfel gyda'n gwalltiau'n wlyb a dyma fe'n RHEWI!! Dyna'r profiad rhyfedda 'to! Nôl yn yr ysgol roedd swper croeso yn ein haros. Dyma drial eog heb ei goginio - wna i byth ei flasu eto! Ych!! Dysgom ambell air Cymraeg i'n hosts yna ei bwrw am adre i wylio DVD.
Dydd Sadwrn
Dal y bws ben bore, a bant â ni i Rovaniemi yn y Ffindir i weld yr Arcticum Museum lle cedwir trysorau'r Samis, yna i weld Santa. Roedd y lle fel byd delfrydol! Cawsom lun gyda'r dyn ei hun, yna crwydro o amgylch y lle a'r siopau. Druan â Tom, un o'n criw, a gwympodd ar y llethr iâ, a gorfod iddo gael 5 pwyth! Daeth e yn ôl i realiti yn go gloi! Cael swper hyfryd gan dad Emelie, Ulf, yna draw i barti ffrind Emelie, Jennifer! Cawsom llawer o sbri yn cyfuno tair iaith a chyfeillgarwch. Rhaid oedd gadael yr hwyl a mynd adre, gan fod Emelie wedi blino! Er y buaswn i ac Angharad wedi medru cadw fynd am rai oriau eto! Gwely erbyn 4y.b!
Dydd Sul
Dydd i dreulio gyda Emelie ac fe gawsom fynd am dros awr ar Snow Mobiles y teulu, a gweld prydferthwch ardal Sangis, trwy llawer o goedwigoedd a'r eira fel siwgwr eisin. Methu siarad yn deidi oedd y broblem wedi cyrraedd adre, gan fod fy mochau a'm gwefusau wedi rhewi! Cael blasu "moose" i ginio - resait arall ffein gan dad Emelie - roedd hwn yn dipyn o gogydd! Gwylio Emelie yn treinio Floor Ball yn y nos!
Gan fod mam a tad Emelie yn byw ar wahân, fe wnaethom fynd i aros dwy noson gyda'i mam mewn fflat yn Kalix. Felly cawsom y siawns o brofi bywyd y dre a'r wlad.
Dydd Llun
Codi am bump i ddal bws i Kiruna, lle'r ymwelom â mwynfeydd haearn a'r Gwesty Iâ byd enwog! Roedd hi'n anodd credu ein bod dros 300m o dan y ddaear pan yn y mwynfeydd - roedd y lle'n edrych fel amgueddfa! Stopio mewn eglwys fechan hyfryd, ar y ffordd i'r Gwesty Iâ.
A dyna chi le oedd hwn - popeth allan o iâ! Hyd yn oed y gwydrau yn y bar!! Mynd o amgylch ugain ystafell wely, gyda 8 ohonynt wedi eu cynllunio gan aelodau o'r cyhoedd. Roedd hawl priodi yn y capel bach gan eistedd ar grwyn ceirw!! Unwaith daw'r tywydd twym, mae popeth yn dadleth a rhaid aros tan y gaeaf nesa cyn adeiladu gwesty newydd arall!!
Dydd Mawrth
Dysgu ambell air a chyfri o 1 i 10 yn Swedeg., Gwneud cyflwyniad ar Gymru i aelodau'r chweched dosbarth yn yr ysgol. Cerdded i Kalix i siopa wedi cinio a chael torri fy ngwallt yno!! Mewn tri gair - gwahanol ond neis! Chwarae yn yr eira gyda'r 'sparc' wedyn, sef cart bach pren oedd yn llithro'n esmwyth o un man i'r llall
Draw i tŷ Lotta sef host arall yn y nos i chwarae gêmau a gwylio DVD Pretty Woman! Lot o sbort a sbri!
Dydd Mercher
Diwrnod o chwaraeon. Fe wnaethom sglefrio-iâ mewn arena yn Kalix. Draw i'r 'Hill' wedyn sef llethr sgio ac eira-fyrddio. Coginio selsig ar dân agored, a mynd lawr y llethr ar ben mat mawr oren! Mae bwyd wastad yn ffeinach mas yn yr awyr agored! Cyrraedd adre a cael siawns i yrru snow mobile! Roedd hi'n ryfeddod pa mor rhwydd yr oedd y cerbyd bach yn mynd trwy eira dwfn iawn! Roedd hi'n gymaint o hwyl chwarae yn yr eira doeddwn ddim am fynd i fewn i'r tŷ! Ysgrifennom DIOLCH yn yr eira tu fas i gartref Emelie.
Dydd Iau
Mynd i wers Economeg, ac yna dau gyflwyniad arall ar Gymru cyn mynd am dro i siopa yn Kalix (roedd Angharad eisiau prynu gratwr caws oedden nhw'n defnyddio yn Sweden!) Draw i dÅ· Mamgu a Thadcu Emelie eto, a tro hyn cawsom waffles cartref, hufen ac eirin! Lyfli! Adre i baratoi cyn ei throi hi am y bwyty yn Kalix i gael swper ffarwel! Cawson fwyd gwych a llun o ni a'r hosts gyda'n gilydd. Noson ffarwel wych i wythnos wych!
Dydd Gwener
Am 8 y bore dyma ni'n ffarwelio â'n cyfeillion newydd a gadael am faes awyr Luleå a hedfan i Stockholm. Yna dal y trên i ganol bwrlwm prif ddinas Sweden a chwilio am ein hostel. Roeddem ni gyd yn cysgu mewn un ystafell fawr!! Bant â ni i Amgueddfa Vasa i weld y llong a suddodd cyn gadael yr harbwr ac a gafodd ei chodi o waelod y môr 300 o flynyddoedd yn ddiweddarach! Roedd y llong mewn cyflwr arbennig gyda'r cerfluniau yn anhygoel! Dal cwch i'r hen dref, Gamlastan wedyn, a chael golwg ar rai siopau yno.
Swper yn y London Restaurant tua 2 funud o'r hotel a chael nosweth wych o siarad a bwyta! Aethom am dro wedi gorffen, a ffeindio siop Portmeirion rownd y gornel! Mae'r byd yn fach hyd yn oed yng nghanol Stockholm!!
Dydd Sadwrn
Amser rhydd yn Stockholm. Aethom i amgueddfa Gustav Adolfus, i Gamlastan i siopa, cinio mewn caffi bach cyn gweithio'n ffordd yn ôl. Roedd hi'n eithaf oer i gerdded y strydoedd a finne wedi gadael fy nghot yn yr hostel. Dyma ni gyd yn mynd i fwyty Eidalaidd i gael ein swper olaf. Cawsom fwyd ffein iawn unwaith yn rhagor, gyda pawb yn drist ddim mo'yn gadael!
Dydd Sul
Gadael yr hostel, gadael Stockholm a gadael Sweden. Anelu trwyn bws G&M ar hyd y draffordd i Lambed. Roedd pawb wedi blino ac eisiau bod adref yn rhannu'r holl brofiadau â'u teuluoedd!
Mae'r atgofion yn fyw yn y cof, yr hanesion difyr yn dal i lifo o'n cegau, a pyliau o chwerthin yn ganol tawelwch, wrth ail fyw deg diwrnod bythgofiadwy ar daith i'n ysgol gyfnewid.