Gyda'r wipers y bws yn mynd ffwl pelt a phawb yn hanner cysgu, nid oedd eisiau poeni dim am y gwynt a'r glaw tu allan ar draffordd yr M4 am 7 y bore! Aros yng Nghanolfan Croes Cwrlwys, Caerdydd, i gael tamaid i fwyta ac awr frysiog o siopa Nadolig cyn anelu n么l at y bws!
Rhedeg trwy'r cesair yn 么l i'r bws gyda dwylo rhai yn llawn bagiau ac yn trio dal ymbar茅l! Bant 芒 ni eto tua Bryste gyda phawb yn diferu ar 么l cael ein dal mewn cawod drom o gesair! Jiw, roedd pawb yn dechrau teimlo'n Nadoligaidd iawn!
Bant 芒'r bws ai s诺n cwyno am draed oer a gwalltiau gwlyb. Cyrraedd Theatr yr Hippodrome ym Mryste gyda'r cesair wedi tewi a phawb methu aros i glywed caneuon Abba yn eu holl ogoniant.
Dechreuodd y sioe gyda medli o'r caneuon, i'n cael ni yn y m诺d! Roedd nifer o'r gynulleidfa wedi gwisgo dillad y 70'au, 'sgidie platfform a ffl锚rs Lycra aur ac arian, ac yn cyd-ganu gyda'r perfformwyr! Roedd yr actorion yn llawn bywyd, y canu yn hwyliog a ninnau'n chwerthin a chlapio trwy gydol y sioe.
Y stori
Cawn ddilyn stori merch ifanc sydd ar fin priodi ar un o ynysoedd Groeg. Mae'n mynd ati i drio darganfod pa un o gyn gariadon ei mam yw ei thad, gan nad yw byth wedi ei gwrdd. Roedd caneuon fel "Dancing Queen" a "Does your mother know" yn creu cadwyn berffaith rhwng yr actio.
Wedi'r finale a'r gymeradwyaeth wresog, dyma'r cast yn canu nifer o'r caneuon eto yn eu tro. Roedd y gynulleidfa gyfan ar eu traed yn dawnsio, clapio a chanu - roeddwn i yn eu canol ac yn mwynhau pob eiliad! Roedd y sioe yn llawn bywyd ac yn llawn lliw!
Gorfod oedd gadael y canu a'r dawnsio a mynd n么l ar y bws i fynd am adref drwy'r glaw trwm. Rhaid oedd cael saib i lanw boliau yn McArthur Glenn. Cafodd y weinyddes ei phrofiad cyntaf o gael y nifer fwyaf o bobl yn archebu pizza Hawa茂 ar yr un pryd - roedd eisiau swper ar y Cardis!!
Mama mia, dyna ddiwrnod! Er gwaetha'r cesair a'r dillad gwlyb, roedd hi'n ddiwrnod ffantastig. Diolch i'r Urdd am drefnu'r trip. Os nag oeddech chi yno, fe wnaethoch chi golli mas! Cofiwch fynd tro nesa' a welai chi 'na!
Siwan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|