Mae Iwan Llwyd wedi porthi'r genedl efo cerddi adnabyddus megis "Far
Rockaway" a "11.12.82". Ond ar y diwrnod arbennig o dan sylw, 'roedd y bardd am gynnal gweithdai ysgrifennu i rai o'r disgyblion.
Buais i'n ddigon lwcus i fod yn un o'r disgyblion a gymerodd rhan yn y gweithdy ac mae'n rhaid dweud buasai colli'r sesiwn wedi bod yn golled enfawr. 'Roedd pob sesiwn yn para oddeutu dwy awr.
Dechreuodd y sesiwn efo cyflwyniad byr gan Iwan Llwyd a oedd yn cynnwys cyfeiriadau at rai o'i gerddi a beth sy'n gwneud darn o farddoniaeth da. Gwerthfawrogais ei farn yn fawr iawn gan i Iwan Llwyd fod yn feirniad llenyddol mewn nifer o eisteddfodau. Aeth ymlaen i siarad am gryfderau a gwendidau cerddi a'i arwr ef (sef T.H.Parry Williams). Yna ar 么l iddo s么n am sut mae ef yn mynd ati i lunio cerdd, fe wnaeth yr holl ddisgyblion greu cerdd gyda chymorth y bardd ar y cyd. Testun y gerdd oedd yr Hydref yn Aberystwyth. Gwelir y gerdd hyn isod.
Haf Bach Mihangel
Mae'r dref yn noeth
A'r haf wedi gadael,
Y traethau'n wag
A'r trenau'n llawn
Myfyrwyr yn dychwelyd.
Oglau t芒n coed
A'r ceir yn mygu,
Y plant dan haenau o gotiau
Yn cicio dail ar y stryd.
Ond pan ddaw llygedyn o haul
I wincio ar y gwlith
A'r adar eira i heidio
A chlwydo dan y pier
Mae 'na ryw heddwch yn gwrlid
Tan ddaw'r barrug gyda'r bore.
Ond nid oedd creu cerdd gyda chymorth bardd llwyddiannus yn sialens fawr - ac 'roedd Iwan Llwyd yn deall hyn. Felly er mwyn gorffen y gweithdy rhannwyd y disgyblion i fewn i grwpiau o tua chwech disgybl, a gofynnwyd iddynt i lunio cerdd ar destun Cantre'r Gwaelod. Tipyn o her coeliwch fi, ac mae'n deg dywedyd fod angen tipyn o waith ar rai o'r cerddi!
Rwy'n hynod o ddiolchgar i Ysgol Penweddig am drefnu a thalu am y gweithdy, ac yn hynod o ddiolchgar i'r bardd Iwan Llwyd am ei gynnal. Fe ddysgais llawer am sut i greu cerdd, ac yn aml dechrau'r creu sydd anoddaf. Gallaf ddweud yn hyderus ar ran yr holl ddisgyblion a gymrodd ran yn y gweithdy i Iwan Llwyd ein rhoi ar ben ffordd a'n bod oll wedi mwynhau. Dwi'n si诺r y bydd llawer iawn mwy o geisiadau yn cyrraedd dwylo'r beirniad yng nghystadleuaeth creu cerdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd flwyddyn nesaf!
Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|