Disgyblion blwyddyn 12 sy'n trefnu'r cyfan ac eleni, cafwyd stondin gacennau yn yr ysgol bob diwrnod yn dilyn y traddodiad blynyddol. Codwyd llawer iawn, iawn o arian. Codwyd ymron i gan punt yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf o werthu.
Y bechgyn yn ennill y dydd
Cynhaliwyd gem b锚l-rwyd ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden - merched blwyddyn deuddeg yn erbyn y bechgyn. Yn anffodus, y bechgyn enillodd y dydd ond 'roedd hi'n g锚m hynod o agos. 'Roedd y sg么r yn gyfartal ar ddiwedd yr amser penodol, felly cafwyd pum munud ychwanegol ar y diwedd er mwyn cael enillwyr pendant. Nid oedd y merched yn rhy hapus i weld y bechgyn yn gorfoleddu yn eu llwyddiant ond codwyd llawer o arian felly nid oeddent yn rhy siomedig!
Ar y dydd Iau fe wnaethpwyd llinell o geiniogau ar hyd un ochr yr ysgol. Ystyr llinell o geiniogau yw bod disgyblion yr ysgol yn ychwanegu arian man wrth basio at linell o arian. Efallai nad yw hyn yn ymddangos yn syniad da i godi swm sylweddol o arian, ond gwnaethpwyd tua phedwar deg punt o'r llinell o geiniogau yn unig. Cynhaliwyd disgo ar y nos Iau hefyd yn yr ysgol yng ngofal blwyddyn deuddeg unwaith eto. 'Roedd y disgo yn llwyddiant ysgubol ac yn hwyl a sbri!
Yr Awr Fawr
Yr "Awr Fawr" yw uchafbwynt gweithgareddau Wythnos Dyngarol Ysgol Penweddig. Awr ydyw o actio doniol er mwyn difyrrwch. Blwyddyn deuddeg sy'n trefnu'r holl ddigwyddiad - y sgriptio, y castio, y dawnsio a'r anrhegion ar gyfer yr athrawon!! Perfformir yr "Awr Fawr" o flaen gweddill disgyblion yr ysgol mewn dau berfformiad. Codir 50c fel pris ar bob disgybl sydd yn dod i weld y sioe. Eleni, penderfynodd blwyddyn deuddeg olrhain stori Sinderella fodern ar gyfer blwyddyn 2007!
Yn ein plot, mae Cadwaladr Charming yn amhoblogaidd a hyll tra bod Sinderella Jones yn boblogaidd a prydferth. Mae'r ddau yn gystadleuwyr ar "Dd锚t Dall" ("Blind Date") ac maent yn cwrdd 芒'i gilydd ar lawr disgo ysgol Penweddig am naw o'r gloch. Mae'r ddau'n cael amser braf yn dawnsio i gerddoriaeth bandiau megis y "Spice Girls", Avril Lavigne a Samanda ("Barbie Girls"). Ond yn anffodus mae'n rhaid i Sinderela adael y disgo am ddeg o'r gloch gan adael dim ond atgof ac esgid ar 么l i Cadwaladr druan. Wrth lwc mae Sinderella yn darganfod ei hesgid a Cadwaladr ac mae'r ddau'n byw'n hapus byth wedyn!!
'Roedd "Awr Fawr" 2007 yn curo pob blwyddyn arall yn 么l llawer iawn o'r disgyblion a'r athrawon. 'Roedd hi'n wythnos hynod o lwyddiannus.
Gan: Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|