91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
C么r Ger y Lli yn Letterkenny, Iwerddon Ger y lli a thu hwnt!
Ers ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch yn 2006, ni ddaeth cyfnod o orffwys i G么r Ger-y-Lli.

Yn y tri mis diwethaf mae'r arweinydd Gregory Roberts a'i aelodau wedi ymddangos ar amryw lwyfannau; o berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd i berfformio yn yr Oireachtas, Eisteddfod Genedlaethol yr Iwerddon. Ac mae'n ymddangos bod mwy ar y gorwel.

Dechreuodd ein siwrnai ym mis Chwefror eleni pan dderbyniwyd gwahoddiad gan y dyn ei hun - Max Boyce, i ymddangos fel rhan o'i daith 'Max Boyce and Special Guests' i berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm. Estynnwyd y gwahoddiad yn dilyn cyngerdd yng nghlwb rygbi pentref genedigol Max, Glynnedd, lle perfformiodd y c么r gyda'r c么r meibion lleol. Gwefreiddiol ydy'r unig ansoddair addas i ddisgrifio'r profiad o ganu ar lwyfan mor adnabyddus, yng nghwmni Max Boyce ac i gynulleidfa o 1900 o bobol. Mae'n debyg ein bod wedi gwneud cryn argraff ar Max Boyce hefyd wrth iddo ein cydnabod fel "y c么r ieuenctid gorau fi 'di clywed mewn amser hir iawn!"

O Gaerdydd, i Letternkenny, Iwerddon nesaf lle bu'r C么r yn cystadlu yn yr 糯yl Ban Geltaidd a'r Oireachtas na Gaeilge. Bu'r wythnos yn un llawn hwyl, gyda llawer o gymdeithasu gyda'r cenhedloedd Celtaidd eraill a hyd yn oed mwy o berfformio, ar deledu Gwyddelig, mewn amryw dafarn ac wrth gwrs 'Noson Gymraeg' yr 诺yl.

Cipiwyd ambell wobr hefyd yn ystod yr wythnos, gyda'r arweinydd Gregory Roberts yn ennill yr Unawd Alaw Werin a churo ymhlith eraill, enillwyr Mod Brenhinol Cenedlaethol yr Alban; ac ensemble lleisiol Ger-y-Lli yn derbyn yr ail wobr gan guro'r Moniars. Cipiwyd hefyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y C么r Merched a'r ail wobr yng nghystadlaethau'r C么r Cymysg a Ch么r Meibion. Yr Uchafbwynt fodd bynnag oedd derbyn dwy wobr gyntaf yng nghystadlaethau C么r Sanctaidd a Ch么r Cymysg yr Oireachtas gan guro rhai o oreuon Iwerddon, y C么r cyntaf o Gymru i gyflawni'r gamp.

Wedi dychwelyd i Gymru gyda phum cwpan, unwaith eto ni ddaeth gorffwys. Bu canran o G么r Ger-y-Lli yn cystadlu yn Eisteddfod James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid lle cipiwyd y Wobr Gyntaf yn y gystadleuaeth C么r Merched a chyntaf yng nghystadleuaeth C么r SATB.

Ar hyn o bryd mae'r c么r wrthi yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac ar gyfer cyngerdd ym mis Gorffennaf, 2007 i godi arian at achos Cymdeithas MS Cymru, cymdeithas mae'r c么r wedi bod yn cefnogi trwy'r flwyddyn. Mae yna felly cyfnod prysur arall o'u blaenau!

Gan Catryn Lawrence

  • Mwy am Aberystwyth
  • Cyntaf i C么r 'n Wal yn yr 糯yl Ban Geltaidd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy