91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Camera "Fi ar Wedi 3"
"Gallaf eich sicrhau na fyddaf yn anghofio fy chwe munud o enwogrwydd tra bydd anadl dan fy mron!" Carys Mair Davies a goleuadau llachar y stiwdio deledu...
Ar Dachwedd 13, 2006, fe gefais i'r fraint o gael teithio i Lanelli gyda Megan Jones o Antur Teifi, er mwyn cael ein cyfweld yn fyw ar raglen teledu Wedi 3 ar S4C digidol.

'Roedd y cynhyrchwyr am i ni fod ar y rhaglen i siarad am gynllun Antur Teifi i annog pobl ifanc i ysgrifennu a chefnogi'u papurau bro. Yn adeilad Tinopolis, Llanelli yr oedd y stiwdio ac 'roedd yr awyrgylch yno yn un drydanol ar y naw.

Wedi cyrraedd yr adeilad anferth cawsom ein tywys i'r ffreutur er mwyn cwrdd 芒'r golurwraig. Mae rhoi colur ymlaen o flaen drych lychlyd yn yr ystafell ymolchi yn hollol wahanol i gael eich mwytho gan golurwraig broffesiynol o flaen drych enfawr mewn stiwdio deledu. 'Roedd hi'n werth teithio yr holl ffordd i Lanelli jest er mwyn y profiad hynny!!

Yna, 'roedd yn rhaid i ni aros ein tro i fynd ar y set gan fod y cyfweliad yn fyw - fel nad oedd eliffantod yn gwneud gymnasteg yn ein boliau yn barod! Tra'n aros fe gawsom y cyfle i weld a siarad gydag Aled Hall a Lowri Steffan - wynebau cyfarwydd iawn ar raglenni teledu Cymraeg.

'Roedd yna wefr fawr i'w chael pan cawsom ein galw i fynd lawr i'r set ei hun. Fe glymwyd microff么nau bach o'n hamgylch ac i ffwrdd 芒 ni i ymuno 芒'r cyflwynwyr Elinor Jones a John Hardy ar seddau cyfforddus set Wedi 3. Er fy mod braidd yn nerfus wrth aros am y cyfweliad tyngfennol, fe hwyliais drwy'r cyfan a chyn pen dim 'roedd Elinor a John yn diolch i Megan a minnau am ddod i siarad ar y rhaglen.

Wel, - dyna chi sioc!! Mae'n rhaid taw dyna chwe munud cyflymaf fy mywyd!! Ni wyddais lle oedd yr amser wedi mynd, ond fel y dywed yr hen ddywediad Saesneg - "Mae bywyd yn hedfan tra'n cael hwyl".

Cefais fy nghyfareddu gan oleuadau llachar y stiwdio a bod o flaen y camer芒u. Wrth i mi ail fyw'r profiad mae'n swnio'n afreal.

Mi wnaeth y diwrnod agor fy llygaid i'r holl waith da y mae Antur Teifi yn ei gyflawni, megis bwydo'r papurau bro ag erthyglau di-ri. Nid yn unig eu bod yn cynnig cyfle i ysgrifennwyr ifanc ennill ychydig o hysbys ac arian poced, ond maent yn cynorthwyo'r holl bapurau bro sydd, a phob tegwch, angen gwaed newydd a storiau diddorol, deniadol.

Ni sylweddolais cyn hyn bod cymaint o wahanol adrannau gan y cwmni ychwaith ac mae'r holl waith caled y maent yn ei wneud dros y cymunedau lleol yn fy ngwneud i eisiau torchi fy llewys a'u helpu'n fwy!

Fe agorodd y profiad ddrysau caedig persnol i mi hefyd. Fe greodd y set deledu argraff fawr arnaf ac mae diddordeb yn y cyfryngau bellach wedi magu ffrwyth ynof. Buaswn yn hoffi dilyn y trywydd hwn ymhellach (o flaen y camera yn hytrach na thu 么l y camera yn ddymunol!!) ac mae'r dyfodol nawr yn fwy clir i mi. Heb yr hwb a gefais gan Antur Teifi ni fuaswn 芒 g么l i anelu tuag ati.

'Roedd y profiad yn hollol unigryw ac ni allaf bwysleisio'n ddigonol fy niolch i Antur Teifi am ddarparu'r fath gyfle i mi. Gallaf eich sicrhau na fyddaf yn anghofio fy chwe munud o enwogrwydd tra bydd anadl dan fy mron! Diolch Antur Teifi!

Gan Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Annette Strauch
Profiad unigryw! Ges i ymweliad gan Heddyr Gregory mis yn 么l ym Machynlleth. Roeddwn i'n mwynhau. Hwyl Carys!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy