Gan fy mod yn hoff iawn o'r fersiwn ffilm o West Side Story roeddwn yn falch iawn i glywed bod Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn bwriadu cynhyrchu'r sioe eleni.
Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld y sioe fel sioe gerdd yn fyw ar lwyfan, felly doeddwn i ddim yn si诺r beth yn union i'w ddisgwyl - a ches i ddim fy siomi.
Mae West Side Story wedi ei seilio yn fras ar stori Romeo & Juliet, a sgrifennwyd gan Shakespeare. Mae'r ddrama wedi ei haddasu i fersiwn fodern o'r stori oesol o ddau berson mewn cariad yn brwydro yn erbyn yr heriau sydd yn rhaid eu hwynebu er mwyn bod gyda'i gilydd.
Yn debyg iawn i stori Romeo & Juliet mae'r prif gymeriadau Tony a Maria yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn. Gosodir y stori yn Efrog Newydd, ac mae'r ddau gymeriad yn perthyn i wahanol griwiau sydd mewn brwydr gyson.
Rhyddhawyd y ffilm y tro cyntaf yn 1961 gan ennill 10 'Oscar' gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau i Robert Wise a Jerome Robbins. Eleni mae'r sioe West Side Stori yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed (perfformwiyd y sioe gerdd am y tro cyntaf yn 1957) ac felly mae'r sioe yn ddewis addas gan Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.
Mae'n hynod o anodd i lwyddo cael braint yr hawliau ar gyfer y sioe hon, felly mae'r Ganolfan yn lwcus iawn i gael y cyfle i gynhyrchu'r sioe ac yn fy marn i maent yn sicr wedi gwneud cyfiawnder 芒'r sioe wreiddiol. Mae gan y Ganolfan draddodiad cryf o gynhyrchu sioeau haf ardderchog a gallaf ddweud yn hawdd taw dyma ydy'r orau hyd heddiw, yn fy marn i.
Does gen i ddim byd gwael i ddweud am y cynhyrchiad yma - mewn gwirionedd, dyma'r sioe orau dwi di weld mewn amser hir ac mae'n gyfartal i unrhyw sioe y gwelwch chi yn y West End neu ar Broadway! Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y cast eleni yn gast gwych o actorion proffesiynol sydd wedi dod o Gaerdydd a Llundain i berfformio yn Aberystwyth. Roedd hyn yn amlwg iawn o safon y perfformiadau.
Roedd yna deimlad cryf o egni ymhlith y cast, ac roedd hyn yn ychwanegu at fy mwynhad o'r noson.
Gwelwyd hefyd sawl wyneb lleol yn rhan o'r cast, yn bobl ifanc o Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais. Roedd yn anodd gwahanu'r perfformwyr proffesiynol o'r bobl ifanc lleol gan fod safon y dawnsio a'r actio mor ffantastig.
Roedd pob elfen o'r sioe wedi cael ei ddylunio gyda sylw at yr holl fanylion a phob un peth yn eu lle i greu sioe a oedd yn broffesiynol o ran y perfformio yn ogystal ag agweddau dylunio set, golau a cherddoriaeth.
Cafodd y set ei gynllunio yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad yma a roedd yn nodedig iawn. Roedd y llwyfan yn fwy nag arfer ac roedd yna adran oedd yn cylchdroi a gallai gael ei symud i greu golygfeydd gwahanol. Roedd y cynllun goleuo yn effeithiol iawn hefyd yn creu awyrgylch tywyll y gwrthdaro rhwng y Jets a'r Sharks.
Mae West Side Story yn enwog am y dawnsio egn茂ol ac mae cynhyrchiad y ganolfan yn llawn dawnsio mentrus a difyrrus diolch i'r coreograffydd Anthony Williams sydd hefyd yn chwarae rhan Doc. Roedd y gwisgoedd yn effeithiol iawn ac yn ychwanegu at deimlad y 1960au yn y sioe.
I mi, roedd yna sawl actor wnaeth serennu, er bod gweddill y cast yn hynod o dalentog hefyd. Roedd lleisiau Laura Clements (Maria) a Richard Munday (Tony) yn anhygoel ac yn cario'r sioe drwyddi draw. Roedd perfformiad Sam Taylor-Martin (Anita) yn ddisglair ac roedd ganddi'r gallu syfrdanol i ddal fy sylw hyd yn oed wrth ddawnsio mewn gr诺p. Roedd perfformiad Llinos Daniel (Consuela) yn wych ac yn hynod o ddoniol.
Rhwng popeth, dyma sioe wych a oedd yn werth ei gweld. Tybed sut bydd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn curo safon y sioe hon y flwyddyn nesaf?
Gan Hollie Bennett
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.