Fe ymwelont ag Aberystwyth fel rhan o'r cyfnewidiadau sy'n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn sgil Cymdeithas Aberystwyth-Kaya. Yn eu hebrwng ar eu hymweliad 'roedd Atsumi Ohta (sef Maer Tref Siapan), Yuka Ishimoto (y Cyfarwyddwr ar yr ymweliad), a Hiroshi Ueda (sef y Swyddog Addysg).
Cefndir
Mae yna saith cyfnewidiad deu-ffordd wedi cymryd lle yn cynnwys
myfyrwyr a disgyblion chweched dosbarth y ddwy dref. Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu hysbrydoli gan y diweddar Mr Frank Evans. 'Roedd Mr Evans yn
garcharor yn nhref Kaya yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe'i orfodwyd ef a'i
gyd-garcharion i weithio yn y pyllau "nickel" yng Nghaya.
Yn ystod yr wythdegau fe ddychwelodd Frank Evans i Kaya fel arwydd o gymodi.
Fe ymatebodd trigolion Kaya yn wresog i ymweliad Frank ac fe wnaethant
sefydlu Cymdeithas Cyfeillgarwch. Fe sefydlwyd Cymdeithas Aberystwyth-Kaya yn fuan ar 么l hynny yn Aberystwyth, ac fe gymerodd y cyfnewidiad cyntaf le ym 1991.
Fe arhosodd y Japaneaid gyda theuluoedd disgyblion chweched dosbarth
Penweddig. Ar y dydd Sadwrn, fe gyrhaeddodd y Japaneaid orsaf Aberystwyth i groeso cynnes Maer y Dref, Michael Jones, ac Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams. Yna fe aethant i gyfarfod 芒'r teuluoedd y byddent yn aros gyda hwy am weddill yr wythnos.
'Roedd bore dydd Sul yn bwysig iawn i'r ymwelwyr gan iddynt ymweld 芒 bedd Frank Evans yn nghapel Bethel, Tal-y-bont. Yna cafwyd croeso cynnes iddynt yno gan plant Ysgol Sul y capel. Fe berfformiodd y plant bedair eitem i'r ymwelwyr cyn cael y cyfle i sgwrsio 芒 hwy dros lluniaeth ysgafn. Yn y prynhawn, fe arhosodd y Japaneaid gyda'r teuluoedd roeddent yn aros gyda hwy ac 'roedd pob teulu wedi trefnu gweithgareddau unigol i'w gwneud.
Ddydd Llun fe ymwelodd y Japaneaid 芒'r Llyfrgell Genedlaethol. 'Roedd nifer ohonynt wedi'u plesio gan y ffaith fod dwy i dair ystafell yn cynnwys
deunyddiau Japanieg. Ar 么l cinio yn y Llyfrgell fe aethant ar daith
gerdded ar hyd y prom gyda prifathro Penweddig, Mr Arwel George.
Cawsant amsugno llawer o hanes ar y daith gerdded, er enghraifft hanes y castell, yr harbwr, yr hen goleg ac yn y blaen. Fe deithiodd y myfyrwyr i Aberaeron ar y dydd Mawrth er mwyn ymweld 芒 Phlas Llanerchaeron a Nant-yr-Arian. Wedi'r holl deithio ac ymweld yn y diwrnodau diwethaf, fe benderfynwyd bod y myfyrwyr yn haeddu hoe ac fe roddwyd bore rhydd iddynt. Manteisiodd y mwyafrif llethol ar y cyfle i fynd i siopa. Yna ar 么l cinio ym Mhenweddig, fe ymwelont ag Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penglais.
Fe aethant i Ganolfan Dechnoleg Amgen ac Abergenolwyn ar y tr锚n ddydd Iau. Yna, ddydd Gwener fe ddychwelont i Ysgol Uwchradd Penglais yn y bore er mwyn gweld rihyrsal y sioe gerdd "Grease" 'roedd y disgyblion yn prysur baratoi cyn dychwelyd am y tro olaf i Ysgol Gyfun Penweddig.
Fe roddodd c么r a band pres yr ysgol (a oedd wedi mynd ar y daith cerdd i'r Almaen yn ystod yr hanner tymor) modd i fyw i'r ymwelwyr drwy berfformio iddynt. Gyda'r nos fe aethant i Frynamlwg er mwyn derbyn derbyniad swyddogol. Yn bresennol, 'roedd Fred Williams (Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion), Elfyn Jones (Aelod o'r Cynulliad) a Gareth Jones (y Cyfarwyddwr Addysg). Fe roddodd y Maer o Japan anerchiad yn Saesneg er mwyn cyflwyno'r criw o fyfyrwyr a dreuliodd yr wythnos yn Aberystwyth. Fe ganodd y myfyrwyr g芒n am y tymhorau yn y derbyniad swyddogol ac o hyd, fe gyfnewidiwyd rhoddion hael dros ben i'r naill ochr a'r llall ar ddiwedd y noson.
Fe dreuliodd yr ymwelwyr ddydd Sadwrn hefo'r teuluoedd roeddynt wedi aros gyda hwy yn ystod yr wythnos cyn ffarwelio ddydd Sul. Bydd y cyfnewidiad hwn yn aros gyda'r digyblion a gymerodd ran o'r ddwy ochr
am byth. Mae nifer o luniau i fyny yn Ysgol Penweddig er mwyn coffau'r
digwyddiad arbennig. Os bydd y cyfnewidiad nesaf yr un mor llwyddiannus ag y bu hwn, bydd y disgyblion sy'n cymryd rhan yn lwcus iawn.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.