Mynach Cristnogol ac Esgob Ceredigion, ef yw Nawdd Sant Cymru.
"Gwnewch y pethau bychain".
Bywgraffiad:
Ganwyd Dewi Sant ym mhlwyf Henfynyw, Ceredigion tua diwedd y bumed ganrif, er fod union ddyddiad ei eni yn anhysbys. Dywedir ei fod o dras brenhinol. Roedd ei dad yn fab i Ceredig, tywysog Ceredigion, ac roedd ei fam Non yn ferch i bennaeth lleol. Mae pentref Llanon yng Ngheredigion wedi ei enwi ar ei hôl.
Wedi iddo gael ei fagu yng Ngheredigion, fe adawodd Dewi er mwyn mynd i astudio o dan Sant Illtyd yn Llanilltud Fawr. Yn fynach, abad ac esgob, tyfodd Dewi yn un o aelodau mwyaf dylanwadol Eglwys Geltaidd y cyfnod, gan ledu neges Cristnogaeth ymysg llwythau paganaidd Prydain.
Sefydlodd fynachdy yn y porthladd Rhufeinig 'Menevia' oedd wedi ei leoli yn Sir Benfro. Yn hwyrach daeth y lle hwn yn ddinas gadeiriol wedi henwi ar ôl Dewi.
Roedd y mynachod hyn yn dilyn trefn lem iawn - roedd Dewi yn llysieuwr a oedd yn rhoi pwyslais mawr ar waith corfforol.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am Dewi ac mae llawer o'r hyn rydym ni yn ei wybod wedi ei ddylanwadu gan ddamcaniaeth a chwedloniaeth. Ysgrifennwyd ei fywgraffiad cyntaf yn yr 11fed ganrif - bron i bum can mlynedd wedi ei farwolaeth - gan fynach o'r enw Rhigyfarch ap Sulien. Roedd yn fab i Esgob TÅ· Ddewi y cyfnod. Mae'r llyfr, 'Buchedd Dewi' yn honni fod Dewi wedi iachau dallineb ei athro St Paulinius a phan agorodd hwnnw ei lygaid, gwelodd Gennin Pedr am y tro cyntaf.
Mae Rhigyfarch hefyd yn cofnodi'r chwedl enwocaf sydd gennym am Dewi: roedd Dewi yn mynychu cyfarfod Synod Eglwysig pwysig yn Llanddewi Brefi ger Tregaron. Ymgasglodd torf anferth ger yr Eglwys leol ac roedd llawer yn cwyno nad oeddent yn gallu gweld na chlywed yr hyn oedd yn digwydd. Gosododd Dewi hances ar y llawr cyn sefyll arno. Yn sydyn, fe ddywedir, cododd bryn bach o dan ei draed gan ei godi hyd nes roedd pawb yn medru ei weld. Dywed rhai hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd, arwydd gan Dduw.
Un o athrawiaethau mwyaf adnabyddus Dewi yw y dylai pobl wneud "y pethau bychain".
Canoneiddiwyd Dewi ar Fawrth 1 1120, gan y Pab Callistus II, ac fe ychwanegwyd dyddiad ei farwolaeth i galendr yr Eglwys. Ers hynny mae wedi cael ei gydnabod fel Nawdd Sant Cymru. Cyhoeddodd y Pab Callistus II hefyd y byddai dau bererindod i DÅ· Ddewi yn cyfateb i un pererindod i Rhufain.