Potsiwr a ffodd y wlad wedi lladd cipar
Mae'n debyg mai trwy ddamwain y lladdodd Wil Cefn Coch un o
giperiaid stad y Trawscoed. Yn sicr, pan aeth allan i hela yng
nghwmni'r brodyr Morgan a Henry Jones TÅ·'n Llwyn yn cario dau
ddryll a phastwn, nid oedd gan yr un ohonynt unrhyw fwriad i saethu
neb.
Na, clicied y gwn oedd yn ddiffygiol yn ôl yr hanes, ac roedd
Wil wedi llithro yn ystod y sgarmes, ond, damwain neu beidio, o gael
ei ddal gallai Wil ddisgwyl rhaff o gwmpas ei wddf.
Doedd yr un
mainc ynadon yn mynd i gredu gair tyddynnwr tlawd yn erbyn gair
gweithwyr y plas.
Yr ergyd farwol
Bore dydd Mercher 28 Tachwedd 1886 oedd hi pan gyrhaeddodd y
tri chyfaill Goed Gwern Dolfor.
Trigai'r tri ar y Mynydd Bach yng
nghyffiniau Trefenter a Llangwyryfon.
Gwyddent fod perygl i giperiaid
fod ar wyliadwriaeth gan i Iarll Lisburne gyflogi tri ohonynt yn ogystal
ag un rhan-amser i gadw golwg ar y stad.
Pan gyrhaeddodd y tri
herwheliwr Goed Gwern Dolfor, roedd y pedwar ciper wedi dod
ynghyd ar ôl clywed sŵn tanio.
Roedd dau o'r ciperiaid, Richard Jones
a Joseph Butler, wedi eu denu o Goed Tynberth ac ymunodd James
Morgan a'r gweithiwr rhan-amser, Morgan Evans, â hwy.
Pan glywsant y ciperiaid yn dynesu, ceisiodd y tri photsier ffoi.
Llwyddasant i gyrraedd Cae Caergwyn, ond roedd y ciperiaid yn dal
i'w dilyn. Trodd y tri i weld James Morgan yn eu herio.
Rhybuddiwyd ef i gadw draw ar fygythiad o'i saethu a rhedodd y tri
i ffwrdd unwaith eto.
Cyrhaeddodd y tri ardd bwthyn Cwmbyr ac
oddi yno llwyddasant i redeg am Gwmbyr-bach.
Erbyn hyn roedd
Butler wedi dal i fyny â Morgan ac ar fin gafael yn un o'r tri pan
drodd y talaf o'r potsieriaid a saethu Butler.
Llwyddodd James
Morgan i ddal un o'r herwhelwyr, Morgan Jones, a beiodd hwnnw
Wil am y saethu.
Yr heliwr ar ffo
Canfuwyd fod Butler wedi marw ar unwaith o ganlyniad i un ergyd
i'w galon.
Y tebygolrwydd oedd i'r gwn gael ei danio tua throedfedd
oddi wrth y ciper.
Cyhuddwyd Morgan Jones yn Llys Bach Llanilar
o fod yn gysylltiedig â llofruddiaeth Joseph Butler ac o herwhela, a
chadwyd ef yn y ddalfa.
Yna, ildiodd Henry Jones ei hun i'r heddlu a chyhuddwyd ef o'r un
troseddau â'i frawd.
Bu Morgan Jones yn ffodus. Ym Mrawdlys
Gwanwyn Sir Aberteifi ar 7 Mawrth 1869 fe'i cafwyd yn euog o
herwhela yn unig a charcharwyd ef am flwyddyn.
Ni chafwyd digon
o dystiolaeth i gyhuddo Henry Jones.
Ond ble'r oedd Wil Cefn Coch,
neu William Richards?
Doedd pobl y Mynydd Bach ddim yn barod i
helpu'r awdurdodau.
Yn wir, aethant ati'n fwriadol i'w guddio.
Yn ystod ei gyfnod o guddio a ffoi, trodd Wil Cefn Coch yn arwr
gwerin gwlad.
Y chwedl yn tyfu
Erbyn hyn mae ffaith a chwedl wedi mynd yn un, ond
mae'r hanesion, boed wir neu gau, yn dal yn fyw yn y fro.
Nid yw'n debygol i Wil adael yr ardal am ddau neu dri mis ar ôl
mynd ar ffo.
Dywedir amdano unwaith iddo guddio mewn melin. Ar
y pryd roedd olwyn y felin yn troi wrth i'r ffermwr falu Å·d, ond yr
hyn na wyddai'r heddlu oedd bod Wil yn cuddio ym mhwll y rhod.
Bryd arall, clywyd bod Wil mewn ffermdy cyfagos lle'r oedd
gwraig y fferm newydd eni baban.
Chwiliwyd y fferm yn drwyadl,
ond ni chafwyd hyd iddo - roedd Wil yn gorwedd o dan y dillad yn
y gwely lle'r oedd y fam yn bwydo'i baban newydd-anedig.
Clywyd fod Wil ar ymweliad â'i gartref a chyrhaeddodd y plismyn
gan ofyn i'w fam a oedd ei mab yno. Mewn rhwystredigaeth
gwaeddodd honno, 'Ydi!' a chodwyd cymaint o ofn ar yr heddlu fel
i un plismon faglu, disgyn a thorri ei goes gan adael i Wil ddianc
unwaith eto.
Mae'n debyg mai'r gŵr a drefnai symudiadau Wil o ddydd i ddydd
oedd Dafydd Joseph, trwsiwr watsys o Dregaron.
Wrth fynd i wneud
ei waith o dÅ· i dÅ· byddai Dafydd yn trefnu gyda'r trigolion pa bryd i
ddisgwyl ymweliad gan Wil.
Ffoi i America
Yn y diwedd cafodd Wil ddigon ar fyw bywyd ffoadur.
Dosbarthwyd posteri'n cynnig gwobr o ganpunt i unrhyw un a
fyddai'n cynnig gwybodaeth a allai arwain at arestio Wil.
Roedd
pethau'n poethi, felly trefnodd Dafydd Joseph ynghyd â John Jones,
bardd lleol, i symud Wil ar draws gwlad i Lerpwl ac ar long i
America.
Cerdded wnaeth y tri, gyda Dafydd Joseph wedi defnyddio
colur i weddnewid ymddangosiad Wil, ond wedi cyrraedd o'r diwedd
i'r dociau yn Lerpwl sylweddolwyd fod pob llong yno o dan
wyliadwriaeth.
Yr unig ffordd allan o'r wlad oedd gwisgo Wil mewn
dillad menyw, a thrwy hynny y llwyddodd i fyrddio'r llong.
Glaniodd Wil yn Pennsylvania a gwneud ei ffordd i Ohio lle'r oedd
gwladfa sylweddol o Gymry yn Oak Hill, llawer ohonynt o Sir
Aberteifi.
Newidiodd Wil ei enw a chafodd waith yno fel gwas fferm.
Priododd â Gwyddeles oedd yn forwyn yno, ond ni fu Wil heb ei
drafferthion yn y wlad bell ychwaith.
Yn ystod dadl mewn bar,
taflodd gyllell at ddyn arall, ond yn ffodus ni ddaeth yr awdurdodau
ag unrhyw achos yn ei erbyn.
Marw ymhell
Yn Oak Hill y bu farw Wil, ac mae nifer o Gymry wedi ymweld
â'i fedd erbyn hyn.
Roedd ef a'i wraig yn ddi-blant felly doedd dim
olyniaeth.
Hyd ei farw, byddai Wil yn dal i ysgrifennu at ei deulu a'i
ffrindiau ar y Mynydd Bach ac, yn wir, mewn llythyr oddi wrth un
o'r ffrindiau hynny y clywodd Wil fod yr heddlu wedi llwyddo i
ganfod ym mhle'r oedd a'u bod yn ystyried danfon uwch swyddog
drosodd i'w ddwyn yn ôl.
Atebodd Wil, 'Byddaf yn falch iawn o
groesawu unrhyw un o'r hen wlad,' ond ychwanegodd y dylai'r
swyddog a ddeuai draw ffarwelio â'i ffrindiau oll gan na wnâi byth
fynd adref wedyn.
Mae'n rhaid bod y swyddog wedi clywed am hyn
oherwydd ni fentrodd neb draw i Oak Hill i geisio estraddodi Wil
Cefn Coch.
Hanes Wil Cefn Coch a Phantomeim Felinfach (2004)
Lyn Ebenezer