Yn 么l ystadegau diweddar mae 57% o dai Prydain yn derbyn mynediad i'r we. Ers troad y mileniwm mae defnydd y we wedi cynyddu, diolch yn bennaf i Broadband neu fand-llydan.
Bellach, nid oes rhaid cael cyfrifiadur i gael mynediad i'r we. Mae'n bosib defnyddio'r ff么n symudol neu deledu digidol.
Rydym yn defnyddio'r we i wneud gwaith ymchwil, bancio, siopa, darllen newyddion o ben draw'r byd a chadw mewn cysylltiad a 'chymdeithasu' gyda theuluoedd a ffrindiau.
Ond, ar 么l clywed bod banc yn Llandysul am ostwng ei oriau agor a bod y swyddfa bost o dan fygythiad i gau, mae'n rhaid gofyn a yw'r we yn rhoi'r hoelen olaf yn yr arch banciau a siopau yng nghefn gwlad, fel Dyffryn Teifi?
Rhaid i mi gyfaddef fy mod i yn defnyddio'r we yn eithaf rheolaidd, i wneud gwaith ymchwil, siopa ac i gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau.
Ar 么l clywed y newyddion bod banc am leihau oriau a bod y swyddfa bost o dan fygythiad, rhaid cyfaddef fy mod i wedi teimlo pwl o gydwybod. Er fy mod yn defnyddio'r gwasanaeth yn y banc a'r swyddfa bost yn eithaf rheolaidd, yn ddiweddar iawn rydw i wedi sylwi fy mod yn defnyddio mwy a mwy o'r we i brynu nwyddau ac i fancio.
Pan ddaeth yn amser adnewyddu treth y car, sylwais bod modd i adnewyddu'r dreth ar y we, felly es ati i wneud hynny.
Clywais bod llyfr newydd yn cael ei lansio gan Jeremy Clarkson yn mis Hydref. Yn hytrach na mynd i'r siop leol i archebu'r llyfr ymlaen llaw, es ati i archebu'r llyfr ar y we. Mae hyd yn oed mam, sydd yn datgan rhyfel yn erbyn y cyfrifiadur bob tro mae'n ei ddefnyddio yn mynd ar y we i archebu nwyddau.
Efallai fod hyn yn edrych fel chwilio am nodwydd mewn tas wair, bod rhai pobl yn defnyddio'r we, ond y gwir yw bod mwy a mwy o bobl yn 么l ystadegau diweddar yn defnyddio'r we i brynu nwyddau, bwcio gwyliau, bancio ac yn y blaen.
Ond pam mae pobl fel hyn, gan gynnwys fi yn defnyddio'r we yn hytrach na mynd i'r siop lle y gallaf gymdeithasu a siarad gyda phobl?
I ddechrau, mae banciau, cwmn茂oedd yswiriant a siopau yn ein annog i ddefnyddio eu gwasanaethau ar y we yn hytrach na defnyddio'r siop neu fanc lleol. Yn aml iawn, mae cwmn茂oedd yswiriant yn dweud 'os wnewch chi brynu ein yswiriant ar y we, cewch arbed canran ar y pris.' Wrth gwrs, fel pob Cardi, mae pob arbediad yn help. Tybed a oes bai ar fanciau a busnesau lleol?
Gan fod y rhan fwyaf o bobl yn gweithio pan mae'r banciau a'r siopau ar agor, hefyd bydd y banciau wedi cau erbyn i'r rhai orffen eu gwaith, nid yw'n bosibl cael mynediad iddynt. Yn wahanol i siopa ar y we mae'n bosib cael mynediad i'r we 24 awr y dydd trwy'r flwyddyn.
Efallai os byddai'r siopau, ac yn enwedig y banciau, ar agor am oriau hirach neu efallai ar y penwythnosau byddai'n well gan bobl ddefnyddio'r gwasanaethau lleol yn hytrach na defnyddio'r we.
Tybed a oes bai ar y cwmn茂oedd yma yn ein hannog i ddefnyddio'r we yn hytrach na defnyddio'r banciau a'r siopau yn y stryd fawr?
Anfantais wrth gwrs wrth annog pobl i ddefnyddio'r we, yn 么l rhai yw bod risg bod eich manylion personol yn mynd i gael eu darganfod.
Hefyd, beth am yr henoed? Er bod llawer o'r henoed bellach yn gallu defnyddio'r we a defnyddio cyfrifiadur mae llawer heb fod yn gyfforddus neu a dim diddordeb i ddefnyddio'r cyfrifiadur. Mewn ardal wledig fel Dyffryn Teifi, lle mae llawer iawn o henoed yn byw ac efallai heb drafnidiaeth, mae banciau a swyddfa bost mewn tref fechan fel Llandysul yn hanfodol.
Os bydd y pentref yn colli gwasanaeth y swyddfa bost a'r banc, tybed a fydd trigolion Dyffryn Teifi yn enwedig y genhedlaeth nesaf yn cael eu hynysu wrth fywyd y pentref ac yn treulio eu holl amser o flaen y cyfrifiadur? Byddant yn colli'r elfen o gymdeithasu a chael cadw i fyny'r gyda'r "glonc" ddiweddaraf.
Os bydd y gwasanaethau yma yn cau bydd y bwytai a'r tafarnau mewn perygl o gau.
Tybed a fydd Dyffryn Teifi yn ystod y ddegawd nesaf yn troi i fod yn gymdeithas lle mae dim ond faniau dosbarthu nwyddau fydd i'w gweld yn y pentref?
Wrth gloi, a ddylem dalu sylw i'r cwmn茂oedd sy'n ein hannog i ddefnyddio'r we? Oherwydd, os byddai'r gwasanaethau lleol yn ein pentref yn cau, nid yn unig byddai yn golled i'r gymdeithas ond byddai'n troi Llandysul a llawer tref a phentref cyfagos yn 'ghost town.'
Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.