Rydym yn ei ddefnyddio i fynd i'r gwaith, i siopa ac i hamddena. Ond, yn ddiweddar iawn, daeth defnydd y car o dan chwyddwydr arbenigwyr Llywodraeth y Cynulliad.
Er mwyn rhyddhau ein heolydd ac i'n hannog i wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus mae'r Cynulliad am gynllunio Cynllun Trafnidiaeth y wlad am y 25 mlynedd nesaf. Wrth gwrs, nid yw hyn yn newyddion gan bod y Llywodraeth yn San Steffan yn cynllunio system y brawd mawr i ni dalu am bob milltir.
Efallai, yn y dinasoedd mawr fel Llundain, Caerdydd ac Abertawe y byddai'r syniad yn gweithio, ond beth am ardaloedd fel cefn gwlad, lle mae gweld bws yn rywbeth prin iawn? Oes, mae bysiau yn dod trwy Ddyffryn Teifi, ond nid ydynt yn ddigon aml i'w defnyddio fel ffordd ddibynadwy o deithio. Yn aml iawn, mae'r bysiau yn hwyr neu ddim yn cyrraedd o gwbl.
Os byddai system y brawd mawr yn dod i rym, pwy fyddai'n dioddef waethaf? Pobl cefn gwlad, pobl sydd yn dibynnu ar y car. Problem arall gyda system naill ai dollau neu system y Llywodraeth i bobl sydd yn byw yn y wlad ac yn teithio i'r gwaith, mae tai wedi cael eu prisio yn rhy uchel iddynt fedru fforddio byw yn agos i'r gwaith yn y dref neu'r ddinas. Felly yr opsiwn arall yw teithio i fewn i'r gwaith mewn car. Os daw'r system yma i rym, ni fyddant yn gallu fforddio teithio i'w gwaith yn y ddinas. Yr unig reswm bod dinasoedd yn cael rush-hours yw bod pawb yn ceisio bod yn yr un lle ar yr un amser.
Un ateb efallai sydd yn bosibl yw rhannu car. Er bod hyn yn syniad da ar bapur, yn y byd go iawn nid wyf yn rhy si诺r. Yng nghefn gwlad, faint sydd yn gweithio yn yr un man? Hefyd, beth am bobl sydd yn gweithio shifftiau, athrawon peripetetic, doctoriaid, pobl sydd yn gweithio yn wirfoddol ar y gwasanaeth t芒n, mae'r rhestr yn ddi ddiwedd.
A beth am ddymuniad personol i weithio'n hwyr neu adael yn gynnar? Problem arall wrth rannu car yw bod rhaid cael car gweddol o faint fel MPV, 4x4 neu saloon. Wrth gwrs, wrth brynu un o'r rhain, mae'r Llywodraeth yn elwa, gan bod treth cerbyd yn uwch ac wrth gwrs mae angen mwy o danwydd.
Wrth edrych yn 么l mewn hanes ardal Dyffryn Teifi roedd pawb yn gweithio naill ai mewn ffatri neu yn gweithio adref ar y fferm neu'n gweithio yn yr ysgol leol. Roedd gan y prifathro d欧'r ysgol i fyw ynddo. Os byddai'n rhaid i'r athro neu athrawes symud o'u pentref i weithio, nid teithio yn 么l ac ymlaen y byddent ond symud i d欧 lodjin.
Eisoes, mae'r Llywodraeth wedi ceisio cael y rhai sydd yn gyrru cerbyd gyriant pedair olwyn i fynd am geir llai, drwy gynyddu treth cerbyd i 拢200. Wrth gwrs, nid yw hyn yn amharu rhyw lawer ar gyfoethogion Lloegr, ond i'r rhai sydd yn dibynnu ar yriant pedair olwyn fel ffermwyr Dyffryn Teifi ar gyfer eu gwaith yng nghefn gwlad mae hyn yn hoelen arall yn arch y diwydiant. Pam y dylai rhywun sydd yn byw mewn ardal wledig fel Dyffryn Teifi gael ei gosbi oherwydd bod rhywun yng Nghaerdydd wedi penderfynu prynu Land Rover?
Y broblem yn fy marn i yw bod aelodau'r Cynulliad a'r Aelodau Seneddol yn byw yn eu byd eu hunain, nid ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau sydd yn ymarferol a sydd yn mynd i blesio'r mwyafrif. Os yw'r Llywodraeth eisiau i ni ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus mae'n rhaid gwella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig.
Ond, a fyddai'r cwmn茂au bysiau yn fodlon teithio trwy Pontsian, Tre-groes, Bancyffordd a Llandysul bob awr gan wybod y bydd y rhan fwyaf o'r bws yn wag am y rhan fwyaf o'r dydd.
I gloi, dylai'r Llywodraeth yn fy marn i helpu i ddarganfod ac ariannu cwmn茂oedd sydd yn arbrofi gyda ffyrdd eraill o bweru ceir ac hefyd yn lle culhau'r heolydd beth am eu lledaenu? Oherwydd i fod yn onest, gan bod y car wedi bod gyda ni am gymaint o amser nid ydym yn mynd i fod yn gallu peidio mwynhau hyblygrwydd, dibynadwyaeth a rhyddid y car.
Gan Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.