91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwylio teledu Barn am y teledu
Katie Ann Briddon o Landysul yn mynegi barn am y set deledu - a yw'n fendith neu'n felltith?

Mae'n si诺r erbyn heddiw bod gan bron bawb o leiaf un set deledu neu fwy yn eu cartrefi, rhan fwyaf ohonynt yn y lolfa gyda'r celfi wedi eu trefnu o'i amgylch.

Mae'r teledu yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau bob dydd, gyda nifer o sianeli 24 awr, mae yna ddigon o ddewis i bawb o bob oedran i'w wylio. Mae'r teledu yn declun poblogaidd iawn sy'n effeithio pawb boed yn hen neu'n ifanc.

Bywyd heb y teledu
Mae'n ddiddorol cymharu pethau nawr fel yr oedd hi, cyn dyfeisio'r teledu. Ydych chi'n gallu dychmygu bywyd heb y set deledu? Yn bendant ni fyddwn i!

Yn gyntaf, mae'r teledu yn bendant o wneud testun sgwrs dda - wrth s么n am ddigwyddiadau diweddaraf yr operau sebon, comed茂au, ffilmiau neu gystadleuthau fel X-Factor Ond, ydych chi erioed wedi meddwl am y cwestiwn 'ydy'r teledu yn felltith neu'n fendith?'

Yn fy marn i, credaf yn gryf bod y teledu yn fendith am nifer o resymau. I ddechrau, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu'r teledu gydag adloniant yn unig, ond rwy'n anghytuno'n llwyr gyda hyn a chredaf nad dyna unig bwrpas y teledu.

Mae rhestr ddi-ddiwedd o bethau sy'n ymddangos ar y teledu. Dywed rhai bod gormod o drais a rhyw ar y teledu heddiw, sy'n rhoi argraff wael i blant ifanc a'u dylanwadu i wneud pethau gwael, ond eto i gyd mae'r teledu yn ffordd dda o drosglwyddo gwybodaeth i bobl y byd, er enghraifft trwy raglenni newyddion.

Mae'n bwysig i ni wybod beth sy'n mynd ymlaen yn ein hardal ac yn y byd ac mae'r teledu yn ffordd rhwydd a chyflym o wneud hyn. Nid yn unig y newyddion sy'n werthfawr ond mae sianeli hanes yn rhywbeth gwerthfawr iawn sy'n dysgu hanes y byd i ni. Eto, mae rhaglenni crefft, coginio, ffilmiau, operau sebon, creddorol ac yn y blaen yn help hefyd wrth ddysgu sgiliau bywyd i ni.

Teimlaf yn gryf fod y teledu yn addysgiadol iawn mewn ffordd ddiddorol i bawb. Mae plant heddiw yn fwy tebygol o wrando a dysgu manylion oddi ar y teledu yn hytrach nag o lyfrau am fod y teledu yn fwy diddorol neu efallai hoffwch ddweud yn fwy 'ffasiynol'. Mae'n creu llun ym meddyliau pobl sydd wedyn yn hawddach i'w gofio. Sawl tro mewn dydd y byddwch yn clywed y geiriau "do, clywes i na ar y teledu" yn cael ei ddweud? Llawer!! Sy'n dangos i ni pa mor boblogaidd ydyw.

Gan bod cymaint o bobl heddiw yn berchen ar set deledu, mae llawer yn amau ei fod yn rhywbeth sy'n gwneud pobl yn fwy pwdwr ac yn ei wylio pan nad oes dim byd gwell ganddyn nhw i wneud. Ar y naill law, mae'r teledu yn adloniant sy'n difyrru pobl ar amserau ond yna ar y llaw arall, mae'n ymyrryd ym mywydau pobl ac yn gallu effeithio ar eu bywydau cymdeithasol. Mae pobl yn awr yn fwy parod i wylio teledu trwy'r amser yn hytrach na mynd allan o'r t欧^ i gymdeithasu. Cred llawer bod sgwrsio am beth yr ydych wedi gweld ar y teledu yn ddiddorol a chyffrous, mae'n destun sgwrs dda ac yn ffordd o gymdeithasu efo pobl.

Mae'r teledu yn ffordd rwydd o gael gwybodaeth gwahanol, e.e. mae'n hawddach gwasgu botwm na cherdded i n么l y papur newydd neu ymweld 芒'r llyfrgell i gael y newyddion, sy'n help mawr i bobl mewn oed a phobl anabl. Gyda'r amrywiaeth o nwyddau yr ydych yn gallu prynu o hysbysebion o'r teledu nid oes rhaid i chi fynd ymhellach na'ch lolfa!

Mae'r teledu yn ffenestr i'r byd ac yn cysylltu'r gwahanol wledydd at ei gilydd. Ar 么l trychineb mawr Medi'r unfed ar ddeg yn Efrog Newydd, roedd y teledu yn help mawr i ni ddeall beth oedd wedi digwydd. Gyda'r rhyfel yn Iraq roedd y teledu yn ffordd gyflym o roi gwybodaeth i ni am yr hyn oedd yn digwydd. Heb y teledu, ni fydden ni'n gallu cael llun o wahanol sefyllfaoedd o wahanol wledydd yn ein meddyliau heb deithio i'r lle i'w weld gyda'n llygaid ein hunain. Mae'r teledu yn help mawr i ni ddeall y byd.

Rwy'n credu fod y teledu yn gallu effeithio arnom yn emosiynol, yn aml, yn ein newid er gwell. Ar y naill law mae pobl yn dweud fod y teledu yn rhoi argraff ddrwg i blant ond ar y llaw arall, credaf fod plant yn gallu gweld y drwg, yn ymddwyn yn wael, wedyn yn cael eu cosbi. O ganlyniad i hyn, efallai bod y syniad o gosbi yn cael ei roi yn eu meddyliau fel peth gwael, ac yn gwneud i blant ail-feddwl am yr hyn y maen nhw'n ei wneud? Ydych chi erioed wedi gweld rhywun yn meddwl yn galed am rywbeth cyn ei wneud oherwydd beth maen nhw wedi gweld ar y teledu?

Cred rhai pobl fod y teledu yn wastraff arian llwyr, ond yna bydd eraill yn anghytuno. Mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni teledu yn ceisio helpu rhywun mewn rhyw ffordd e.e. mae Strictly Come Dancing yn gystadleuaeth ac yn codi arian i elusen Plant Mewn Angen. Ar y teledu maent yn arddangos hysbysebion. Ymhlith yr hysbysebion hyn, mae yna wastad hysbyseb sy'n gofyn i'r bobl adre i roi arian i elusennau tebyg i'r RSPCA neu Oxfam. Gall y teledu fod o help mawr i'r heddlu hefyd trwy'r rhaglen Crime Watch.

Gallwn ddweud fod y teledu yn fendith i fywydau pobl y byd mewn nifer o wahanol ffyrdd. Nid yn unig bod y teledu yn dda i'w wylio ac yn dda i ymlacio o'i flaen ond mae hefyd yn declyn pwysig sy'n rhan allweddol o'n bywydau ac heb deledu ni fydden mor ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd heddiw.

Gan: Katie Ann Briddon, disgybl Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Yardley Everton o Maesteg
Dwi'n Hoff o Rhagleni teledu fel "eastenders" a "coronation street" oherwydd mae'n dangos bywyd pobl pob dydd a dydych chi methu byw eich bywyd heb ymladd unwaith. Mae'n hwyl i gwylio'r teledu efo rhyw fath o ymladd oherwydd rydych eisio gwybod beth sy'n digwydd nesaf ac os oes cymeriadau gas a rydych eisiau cael nhw bant or rhaglen fydd rhaid cael rhyw fath o ymladd i cael y person bant or rhaglen.
Mon Jun 22 21:52:55 2009


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy