Cysur pob un sydd yn gweithio, yw rhyw ddiwrnod y bydd yn ymddeol ac yn cael pensiwn gan y llywodraeth. Ond, yn ddiweddar iawn mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn rhaid i ni weithio yn hirach cyn cael ein pensiwn. Yr Almaenwyr ddaeth ar draws y syniad o gynnig pensiwn pan fydd person yn ymddeol yn 1880. Yn ein gwlad ni y Prif Weinidog Lloyd George fu'n gyfrifol ein bod ni'n derbyn pensiwn y wladwriaeth.
Ar hyn o bryd, yr oedran ymddeol yw 65 i ddynion a 60 i ferched, ond dan gynllun newydd y llywodraeth bydd yn rhaid i ni weithio tan 66 a bydd yr oedran ymddeol yn cynyddu i 68 erbyn 2044. Beth yw'r fantais am weithio'n hirach? Mwy o arian, sydd yn newyddion da, ond pam y mae'n rhaid i ni weithio yn hirach cyn cael yr arian?
I ddechrau, rydym fel poblogaeth yn heneiddio, ac hefyd rydym yn byw yn hirach. Mae'r nifer o blant sydd yn cael eu geni yn fach iawn o gymharu - felly er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad, bydd yn rhaid i ni weithio'n hirach. Ond pam? Pam y dylai'r treth dalwr weithio'n hirach? Fel Canghellor, mae Mr. rydyn ni yn ei brynu. Meddyliwch faint o drethi rydym yn eu talu - treth am ein bod yn gweithio; (income tax) treth y cyngor, treth ar danwydd, treth y car ac yn y blaen. Felly, gyda'r holl drethi, ble mae'r arian yn mynd? Yn amlwg, nid yw'r arian yn cael ei wario yn 么l ar y wlad, nid yn unig ein system pensiwn sydd mewn peryg, ond ein gwasanaeth iechyd, addysg, diwydiant ac hefyd amaeth.
Tybed a oes treth ar wneud i Mrs. Blair edych yn smart ar adeg ymweliadau tramor? Beth am y rhyfel yn Irac? Mae'n rhaid i rywun dalu. Trueni na fyddwn yn Aelod Seneddol a chael codiad cyflog am actio fel plentyn!
Ond, er tegwch i'r llywodraeth, nid yn unig y wlad yma sydd 芒 phroblem pensiwn. America, Yr Almaen, Japan a Awstralia i enwi ond ychydig rai sydd 芒 phroblem gyda'r system pensiwn. Gyda Japan mae'r broblem waethaf gyda 28% o bobl yn cyrraedd 65 erbyn y flwyddyn 2025 (i gymharu 芒 Phrydain 15%) efallai taw aros i weld sut y mae Japan yn ymdrin 芒'r broblem sef rhoi llai o fudd daliadau a chynyddu cyfraniadau. Efallai mae eu syniadau hwy yw'r ffordd orau ymlaen. Neu efallai dilyn system Norwy - dim trethi ar y cyflog ond yn lle hynny treth ar enillion mae'r dreth yn cael ei roddi ar bopeth sy'n cael ei brynu. Hefyd mae'n rhaid cyfrannu at y pensiwn bydd y person yn ei dderbyn pan fydd yn ymddeol.
Yn Seland Newydd bydd system newydd yn dod i rym yn 2007 sef annog cynilo ar gyfer dydd ymddeol. Bydd y gweithiwr yn mynd ar gynllun y llywodraeth, a fydd yn buddsoddi'r arian mewn cyfri personol. Ar 么l wyth wythnos o gyfrannu mae cyfle i optio allan neu ddal i fuddsoddi. Wrth newid swydd bydd y cyfraniadau'n mynd gyda'r gweithiwr.
Un peth sydd yn glir yn fy meddwl i, byddai'n well i'r llywodraeth wario arian y trethdalwr ar system pensiwn sydd yn gweithio ac o fudd i'r rhai sydd wedi cyfrannu i bwrs y wlad yn rheolaidd yn lle ei wastraffu ar ryfeloedd a gwallt Mrs. Blair.
Gan Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|