91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Maes Parcio Costau parcio yn Llandysul
Hydref 2006
A fydd rhaid talu am barcio yn Llandysul cyn bo hir? Dylan Davies o'r dref sy'n holi'r cwestiwn.
Parcio. I rai sydd yn berchen ar gar, mae'n hanfodol. I rai, mae'n ben tost. Yn ddiweddar mae cynllun wedi dod i'r amlwg i godi t芒l ar bobl sy'n parcio ym maes parcio Llandysul. Beth yw'r broblem mae rhai yn gofyn? Mae'n rhaid talu am barcio yn y rhan fwyaf o feysydd parcio, felly pam yr holl d芒n gwyllt?

I ddechrau mae'n dreth arall ar fodurwyr sydd yn talu llawer am gadw eu car ar yr heol - 拢5,000 y flwyddyn yn 么l ymchwil diweddar. Mae talu am barcio yn gost ychwanegol. Yn 么l y cynghorau sir, mae'n refeniw ychwanegol yn help i gadw a chynnal y meysydd parcio. Yn fy marn i, nid yw'r refeniw ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynnal y meysydd parcio ond yn hytrach i gyflogi wardeiniaid sydd fel cathod yn barod i neidio ar gar sydd 芒 thocyn funud dros amser, neu sydd 芒 thocyn anabl wyneb i waered - credwch fi mae wedi digwydd.

I ddechrau, mae llawer o berchnogion busnes yn parcio yn y maes parcio yn Llandysul, felly mae hyn yn gost ychwanegol i'r busnesau bach. Hefyd, mae'r busnesau yn credu y bydd hyn yn lleihau ar y nifer o bobl bydd yn aros ac yn siopa yn y dref. Ond a yw hyn yn wir? Yn ddiweddar mae Castell Newydd Emlyn wedi cyflwyno taliad am barcio a bob tro rydw i wedi mynd i barcio yna, mae'r maes parcio yn llawn, felly effaith fach y mae cyflwyno t芒l parcio wedi ei gael yno.

Pam y bydd hi'n wahanol yn Llandysul?
Rydw i'n gallu gweld pwynt y busnesau, os bydd yn rhaid talu mewn meysydd parcio, bydd yn gyrru pobl i fynd i siopa mewn archfarchnadoedd, sydd yn gwerthu popeth sydd angen ar y cartref heddiw - nid yn unig hynny, mae'r parcio am ddim yno hefyd. Efallai nad yw'r cynghorwyr a'r cynghorau yn sylwi eu bod yn rhoi hoelen ychwanegol yn arch y busnesau bychain ac yn agor y llifddorau i'r archfarchnadoedd.

Yn bersonol ni fyddai ots gennyf dalu am barcio os byddem yn gwybod fod y maes parcio yn ddiogel. Ar hyn o bryd, beth ydyn ni'n talu amdano? Yng Nghaerfyrddin er ein bod yn talu trwy'r trwyn am barcio, eto, nid oes sicrwydd bod y car yn ddiogel tra ein bod ni yn siopa yn y dref. "Park at owners risk."

Yn fy marn i, mae'r cynghorau ag un llaw yn led agored yn barod i gymryd yr arian am y gwasanaeth parcio, ond mae'r llaw arall ar gau, ddim yn fodlon sicrhau bod y car yn ddiogel. Byddai'n well gennyf i os byddai'r arian y maent yn ei godi am barcio ac hyd yn oed y gosb ariannol am fynd dros yr amser, yn cael ei ddefnyddio i gyflogi swyddogion diogelwch neu i redeg system camer芒u i wneud yn si诺r bod ein car yn ddiogel.

Defnydd arall gallent ei wneud o'r arian parcio yw gwneud yn si诺r fod digon o le rhwng pob car. Ar 么l prynu car newydd y llynedd fe wnes i sylwi ei fod yn lletach na'r car o'r blaen. Eto, fe ddaeth hyn yn boenus o amlwg mewn maes parcio, wrth agor y drws fe wnes i sylwi nad oedd digon o le i'w agor. Nid yn unig fy nghar i sydd yn llydan ond mae ceir newydd yn dueddol i fod yn lletach. Efallai bod angen ail edrych ar y meysydd parcio a sicrhau bod digon o le i barcio.

Ond, gall y pris gynyddu eto yn y dyfodol. Mae trigolion 'Richmond upon Thames' wedi cael gwybod am gynllun y bydd yn rhaid talu yn 么l faint mae'r car yn amharu ar yr amgylchedd. Felly am gar bach fel 'Citro毛n C1' neu gar 'hybrid', bach iawn fyddai'r gost. Am gar teulu a cherbydau gyriant 4x4 byddai'n rhaid talu rhagor.

I gloi, mae yna ddwy ochr i bob stori. Os byddai'r arian sydd yn cael ei gasglu o'r maes parcio yn cael ei roi yn 么l i mewn i'r gymuned neu i ddiogeli ein car, byddem yn fodlon iawn i dalu'r dreth ychwanegol. Ond, os byddai'r arian yn cael ei gasglu ar gyfer coffrau'r Cyngor Sir, ni fyddem yn fodlon talu am barcio ac yn hytrach parcio ar ochr y stryd neu fynd i'r archfarchnad leol fydd yr ateb.

Dylan Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy