Un o nodweddion llenyddiaeth Gymraeg rhwng y ddau Ryfel Byd yw bod iddi "wyth茂en gref" o deimladau gwrth Iddewig.
Dyna'r casgliad y daeth yr ysgolhaig a'r beirniad llenyddol, y Dr Smon Brooks iddo yn dilyn astudiaeth o gynnyrch llenorion Cymru yn amrywio o T Gwynn Jones i Saunders Lewis.
Bu'r Dr Brooks, sy'n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yn trafod y pwnc gyda John Roberts ar Bwrw Golwg 91热爆 Radio Cymru, fore Sul Tachwedd 23, 2008 yn dilyn darlith a draddododd yn y Brifddinas.
Cyhuddo Saunders Lewis
"Dwi wedi bod yn ymwybodol ers blynyddoedd fod Saunders Lewis, yn benodol felly, yn cael ei gyhuddo o fod yn wrth Semitydd ac fel sylfaenydd Plaid Genedlaethol Cymru wedyn mae gwahanol ysgolheigion a haneswyr wedi dadlau yn sgil hynny bod yna gyswllt anorfod rhwng gwrth Semitiaeth - ac oherwydd hynny hiliaeth - a chenedlaetholdeb Cymreig.
"Ac roeddwn i'n cael hynny'n honiad diddorol iawn ac arwyddocaol iawn felly dechreuais i edrych ar waith Saunders Lewis ac yn fy marn i mae yna gyfeiriadau gwrth Semitaidd yn ei waith - mae hynny'n amlwg," eglurodd.
"Ond beth wnes i ddechrau ddarganfod oedd fod ymron pawb yn y cyfnod yn wrth Semitaidd a hynny'n codi'r cwestiwn pa mor arbennig, pa mor neilltuol pa mor wahanol oedd gwrth Semitiaeth Saunders Lewis ac a ellid dadlau yn sgil hynny fod yna gyswllt anorfod rhwng cenedlaetholdeb Cymreig, er enghraifft, a hiliaeth oherwydd roedd pawb yn y cyfnod yna i ryw raddau neu'i gilydd yn hiliol mewn gwirionedd," meddai.
Ond yr oedd ochr arall i'r geiniog hefyd gydag enghreifftiau o gariad at Iddewon ac edmygedd mawr ohonynt - philo Semitiaeth.
Rhoi pwyslais
"Roedd y diwylliant Cymraeg yn un sy'n rhoi llawer iawn o bwyslais ar yr Iddewon . . . [ac] rydych chi'n cael llawer iawn o sylwadau philo Semitaidd, mynegiant o barch tuag at yr Iddewon oherwydd eu crefydd ac oherwydd mai Iddew oedd yr Iesu," meddai.
Ond ochr yn ochr a'r edmygedd a'r parch hwn darganfu bod yna hefyd elfennau gwrth Iddewig yng ngweithiau hyd yn oed llenrion mwyaf blaenllaw y cyfnod.
"Rydych chi hefyd yn cael cryn dipyn o wrth Semitiaeth ac yn od iawn yng ngwaith yr un llenorion," meddai.
"Felly yng ngwaith W J Gruffydd, er enghraifft, rydych chi'n cael dipyn go lew o philo Semitiaeth a'r gwrth Semitiaeth ac mae hynny'n rhywbeth od i'w wynebu a dweud y gwir.
"Mae'n anodd deall y peth fel pe bydden nhw'n croesawu'r Iddewon fel gr诺p o bobl ond yn gallu bod yn hiliol tuag at unigolion yn aml iawn," meddai.
Tuedd gyffredin
"Ond dydw i ddim yn credu bod unrhyw amheuaeth [fod yna] mewn llenyddiaeth Gymraeg rhwng y ddau ryfel byd - pan fo rhywun yn edrych ar waith T Gwynn Jones, T Rowland Hughes, W J Gruffydd a Saunders Lewis - bod yna wyth茂en gref o wrth Semitiaeth," ychwanegodd.
Ond yr oedd yn amharod i fwrw ei lach ar y llenorion hynny oherwydd eu hagwedd gan ddweud mai adlewyrchu yr oedden nhw duedd gyfredin y cyfnod.
"Beth ydi arwyddoc芒d hynny rydw i'n ei gael yn ddifyr . . . [sef] bod y cyfnod yna yn ei gyfanrwydd . . . yng ngorllewin Ewrop yn gyffredinol yn gyfnod gwrth Semitaidd. Felly, yn fy marn i, mae'n annheg i ddewis Saunders Lewis, er enghraifft, a beio Saunders Lewis yn benodol am ei wrth Semitiaeth os ydi o'n byw mewn cyfnod lle mae ymron pawb yn wrth Semitig," meddai.
"Ac mae gen i enghreifftiau o sosialwyr, o gomiwnyddion - Niclas y glais er enghraifft - a phobl oedd ddim yn genedlaetholwyr sydd wedi dweud pethau gwrth Semitaidd yn y Gymraeg," meddai.
"Ac mae'r enghreifftiau yn niferus," ychwanegodd. Mae degau a degau a degau ohonyn nhw!"
Moslemiaid heddiw
Dywedodd mai arwyddoc芒d hyn i'n cymdeithas ni heddiw yw y gellid dadlau fod tebygrwydd rhwng yr agwedd tuag at yr Iddewon yn y gorffennol a Moslemiaid heddiw.
"Dydw i ddim yn si诺r pa mor uniongyrchol yw'r gymhariaeth yna . . . a dwi'n meddwl ei bod yn gamgymeriad . . . i gymharu yr Holocost a beth sy'n digwydd mewn rhai rhannau o'r byd hefo Mosleniaid ond fe ellid gwneud y gymhariaeth yna . . .
"Fe ellid hefyd d dangos bod hiliaeth wedi bod yn nodwedd o'r gymdeithas Gymraeg yn y gorffennol fel ag y mae wedi bod yn nodwedd o bob cymdeithas yng ngorllewin Ewrop ac fe ellid hefyd . . . ddad fytholegu'r syniad yma bod yna gyswllt penodol rhwng hiliaeth a chenedlaetholdeb.
"Dydw i ddim yn si诺r mod i'n derbyn y thesis yna ; dwi'n credu bod cymdeithas yn ei chyfanrwydd mewn gwahanol ffyrdd yn tueddu i fod yn hiliol [a] dwi ddim yn hollol argyhoeddedig y gellid dilyn y ddadl fod Saunders Lewis am ei fod yn genedlaetholwr yn fwy hiliol na phobl eraill yn y gymdeithas. Dwi'n credu bod y ffynonellau'n dangos nad ydi hynny yn wir," meddai.