91热爆

Salwch olaf - cynnig cymorth i farw

Gwylio claf

01 Chwefror 2010

Gweddw yn dadlau na all Cristion roi cymorth i brysuro marwolaeth.

Yn dilyn dau achos llys diweddar mae'r cwestiwn yngl欧n 芒 chynorthwyo cleifion nad oes gwella iddyn nhw farw yn bwnc trafod unwaith eto.

A chwestiwn Bethan Jones Parry, cyflwynydd Bwrw Golwg ar 91热爆 Radio Cymru ddydd Sul, Ionawr 31,oedd; a yw hi'n iawn da rai amgylchiadau cynorthwyo rhywun i farw er mwyn arbed poen a dioddefaint?

Ateb pendant Lynwen ap Gwynedd Oedd na ellid cyfiawnhau hynny waeth beth yr amgylchiadau.

Yn wraig weddw yr oedd gan Lynwen brofiad personol o'r tensiynau sy'n codi pan fo cymar neu berthynas agos yn ddifrifol wael.

Bu farw ei g诺r, y Parchedig Aled ap Gwynedd wedi cystudd hir o Glefyd Motor Niwron - ond y ddau yn bendant na ddylai claf gael dewis pryd i farw waeth faint y dioddef:

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

"Mae fy safbwynt i yn hollol glir ac yn syml dwi ddim yn meddwl fod hawl gan unrhyw unigolyn i helpu nac i fod yn rhan o lofruddio, mewn ffordd, unrhyw un," meddai.

Dyna hefyd safbwynt ei g诺r pan oedd yn fyw, meddai.

Ond ychwanegodd ei bod yn deall pam y byddai rhai yn credu'n wahanol:

Yn gallu deall

"I ryw raddau mae rhywun yn gallu deall beth mae pobl yn mynd drwyddo o achos yr holl ddioddef maen nhw'n weld - yn enwedig gyda rhywun sydd yn agos atyn nhw - ond o'm safbwynt i rwy'n gwybod, wedi wynebu fel gwnaethom ni y clefyd difrifol roedd Aled yn dioddef ohono fe, doedd yna ddim eiliad lle teimlais i na fe'i hunan ein bod ni'n gallu meddwl am ddod a'r cyfan i ben," meddai.

Parchedig Aled ap Gwynedd

"Yr oedd Aled yn deffro bob bore, hyd yn oed yn ei salwch ar ei waethaf, ac yn edrych allan drwy'r ffenestr a dweud, 'Diolch mod i yn fyw' - a dyma'i agwedd e nes iddo fynd yn wael iawn wrth gwrs," meddai.

"Hefyd, rwy'n credu ein bod ni'n treulio ar hyd llwybrau peryglus iawn wrth feddwl am gyfreithloni y math yma o beth achos mae yna nifer fawr o bobl fregus allan yn y gymdeithas a dwi'n ofni'n fawr iawn y byddai yna bobl yn cymryd mantais o'u sefyllfa bregus nhw," ychwanegodd.

Heb wegian

Dywedodd y deilliai eu safbwynt o'u cred Gristnogol.

"Os ydych chi'n Gristion rydych chi'n mynd i ddisgwyl i bethau ddigwydd yn naturiol," meddai.

Ychwanegodd iddi hi gael cryfder o'i ffydd yn ystod y salwch ac wedyn wrth wynebu bywyd heb ei g诺r.

Dywedidd na fu gwegian o gwbl na gwyro oddi wrth y safbwynt hwnnw.

Fodd bynnag, dywedodd hefyd ei bod yn cydymdeimlo 芒 rhai sydd yn dewis y ffordd arall.

"Ond dyw e ddim yn golygu mod i'n teimlo yr un fath a nhw," meddai.

Cerddi'r Goron

Ymlyniad cadarn y Parchedig Aled ap Gwynedd i'w ffydd oedd yr ysbrydoliaeth i'r cerddi a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 i Ceri Wyn Jones.

Meddai Ceri Wyn Jones ar y pryd:
"Ac yntau yn weinidog yr efengyl bron nad oedd ei ffydd ef yn cryfhau po salaf oedd e'n mynd ac i rywun fel fi ei wylio roedd e'n anghredadwy oherwydd dwi'n rhywun sydd wastad wedi simsanu rhwng cred ac anghred ond yr oedd yn rhaid edmygu wrth weld dyn oedd yn ffaelu siarad oherwydd ei gyflwr ond oedd yn ymgorffori'r ffydd Gristnogol - yr oedd e'n ysbrydoliaeth ar un ystyr ond hefyd yn anodd ei ddirnad."

  • Gellir gwrando ar y sgwrs rhwng Bethan a Lynwen trwy glicio ar y blwch llwyd uchod.

Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.