Cyhoeddwr, golygydd a dylanwad mawr ar wleidyddiaeth Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Thomas Gee. Er nad oedd wedi chwarae rhan yn Radicaliaeth ardaloedd diwydiannol y De, llwyddodd i hyrwyddo yr achos cenedlaethol ym mywyd cyhoeddus y Gogledd i raddau helaeth iawn.
Gwnaeth hyn yn bennaf fel cyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru, a unodd Baner Cymru ac Yr Amserau ym 1859 i greu y papur Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed.
Llwyddiant papurau newydd
Erbyn marwolaeth y perchennog ym 1898 roedd tua 15,000 o darllenwyr gan Baner ac Amserau Cymru, er y credir erbyn hyn i'r cylchrediad wythnosol fod tua 3,000 o gop茂au. Yn sicr, roedd yn uwch ei fri nag unrhyw bapur Cymraeg arall yn ei ddydd ac ers hynny.
At hynny cyhoeddodd y cwmni nifer o gyfnodolion safonol megis Y Traethodydd dan olygyddiaeth Lewis Edwards, a'r Gwyddoniadur.
Oes aur cyhoeddi Cymraeg
Ganwyd Thomas Gee yn Ninbych ym 1815. Wedi cael rhywfaint o addysg yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, fe'i prentisiwyd pan oedd yn bedair ar ddeg oed yn argraffdy ei dad a threuliodd ddwy flynedd yn dysgu'r grefft gydag Eyre a Spottiswoode yn Llundain cyn dychwelyd i ymuno 芒 busnes y teulu ym 1838.
O 1845 ef yn unig oedd yn gyfrifol am ddatblygu Gwasg Gee i fod yn sefydliad o bwys cenedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn, oes aur cyhoeddi yng Nghymru, argraffodd lu o gylchgronau, papurau, geiriaduron, gramadegau, gweithiau diwinyddol, ynghyd 芒 chasgliadau o farddoniaeth, emynau a phregethau.
Yn wir, nid gormodiaith yw dweud ei fod wedi newid cyflwr diwylliant Cymru trwy gyfrwng y gair printiedig.
Hyrwyddo rhyddfrydiaeth
Nid oedd Thomas Gee yn llenor, ond llwyddodd i gasglu o'i gwmpas nifer fawr o awduron talentog ar rychwant eang o bynciau, yn enwedig yn y maes politicaidd a chrefyddol. Roedd yn Fethodist pybyr ac roedd yr Ysgol Sul a Dirwest yn agos iawn at ei galon.
Roedd ar d芒n dros achosion Rhyddfrydol megis addysg anenwadol ar gyfer Anghydffurfiwyr, ehangu'r bleidlais etholiadol, Pwnc y Tir a datgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys yng Nghymru.
Er na fu fyw i weld ffrwyth llawer o'i ymgyrchoedd, llwyddodd i wneud y pynciau hyn yn rhai llosg yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Wedi marwolaeth Thomas Gee cymerodd ei fab, John Howel Gee, ofal o'r busnes hyd 1903 ac arhosodd ym meddiant y teulu hyd 1914.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn