Awdur, actor, cyfarwyddwr ffilm ac aelod o griw comedi enwog, Monty Python's Flying Circus.
Bachgen Bae Colwyn
Ganwyd Terence Graham Parry Jones ar Chwefror 1 1942 ym Mae Colwyn. Er i'w deulu symud o Fae Colwyn i Claygate yn Surrey pan oedd yn bump oed, mae'n ystyried ei hun yn Gymro go iawn. Fe brofodd hynny, meddai, drwy gapteinio t卯m rygbi'r ysgol!
Aeth ymlaen i Rydychen i astudio Hanes y Canol Oesoedd ac mae ei ddiddordeb byw yn y pwnc wedi para hyd heddiw. Yn Rhydychen y cyfarfu 芒 Michael Palin gan greu partneriaeth ysgrifennu comedi hynod lwyddiannus a weithiodd ar gyfresi arloesol fel 'At Last the 1948 Show' a 'The Frost Report'.
Ar raglen Frost y cyfarfu'r ddau 芒 gweddill y criw Monty Python, sef John Cleese, Terry Gilliam, Graham Chapman ac Eric Idle. yn y 60gau daeth y gyfres gomedi, 'Monty Python's Flying Circus' yn gwlt ymhlith gwylwyr ifainc y 91热爆. Yn adeiladu ar etifeddiaeth cyfres gomedi radio 'The Goons', roedd y Pythoniaid yn cyfuno sgetsus hollol swreal gyda digrifluniau o gymeriadau fel gwragedd ty busneslyd, (sef y 'Pepperpots' oherwydd bod eu hetiau'n debyg i bot pupur), a dynion dosbarth gwaith o Swydd Efrog yn gwisgo hancesi am eu pennau.
Roeddent hefyd yn tarfu ar draws y 'pedwerydd wal' ac yn stopio sgets yn ei hanner os oedd hi'n 'rhy sili.' Roedd Terry Jones yn adnabyddus iawn am ddynwared y 'Pepperpots' yn effeithiol iawn ac am chwarae'r organ yn noeth!
Ffilmiau Python
Yn y 70gau canol, daeth Python i ben ar y teledu gan fod John Cleese o'r farn bod y gyfres wedi cyrraedd diwedd ei hoes ar y sgrin fach. Ond roedd ganddynt syniadau ffres am ffilmiau. Diolch i nawdd y Beatle, George Harrison, cafodd y Pythoniaid y cyfle i gynhyrchu tair ffilm, 'Monty Python and the Holy Grail' (1974), 'The Life of Brian' (1979) a 'The Meaning of Life' (1983).
Fe fu Terry'n ysgrifennu a pherfformio myrdd o gymeriadau cofiadwy gyda'r Pythons gan gynnwys mam Brian yn y ffilm a gododd wrychyn arweinwyr Cristnogol y dydd, 'Life of Brian'. Ond fe hefyd a gyfarwyddodd eu ffilmiau i gryn glod.
Ers hynny, mae wedi gweithio'n llwyddiannus ar ei liwt ei hun ar ffilmiau enwog eraill fel 'Personal Services', 'Erik the Viking' a 'Labyrinth'. Cafodd ei gyfres hanes i'r 91热爆, 'Medieval Lives' ei henwebu am Emmy yn 2004.
Ar 么l magu teulu ei hun, aeth Terry ati i ysgrifennu ar gyfer plant a chyhoeddi llyfrau fel 'The Curse of the Vampire Socks', 'Fantastic Stories', 'Nicobonimus' a gyda'i hen gyfaill Michael Palin, 'Dr Fogg's Encyclopaedia of All Knowledge.'
Mae Terry Jones yn noddwr Theatr Colwyn ac agorodd yr adeilad ar ei newydd wedd yn Hydref 2011.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn