Un o feirdd mawr Cymru sy'n adnabyddus am ei gerddi rhamantaidd ac am weithiau fel 'Englynion Coffa Hedd Wyn', 'Eifionydd' a'r 'Llwynog.'
Teulu llengar
Ganwyd Robert Williams Parry yn 1884 a magwyd ef yn Nhal-y-Sarn, Dyffryn Nantlle. Roedd yn aelod o deulu llengar ac yn gefnder i TH Parry Williams ac i Thomas Parry, a fu'n Brifathro Coleg Prifysgol Aberystwyth. Daeth i amlygrwydd i ddechrau pan enillodd y Gadair yn Eisteddfod Colwyn 1910 gyda'i awdl, Yr Haf.
Cychwynnodd astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond gadawodd wedi dwy flynedd cyn graddio, a mynd i ddysgu mewn ysgolion elfennol yng Nghymru a Lloegr. Dychwelodd i'w yrfa academaidd dan arweiniad John Morris Jones ym Mhrifysgol Bangor, cyn dod yn athro Cymraeg a Saesneg yn Ysgol Brynrefail.
Gelwid R Williams Parry yn aml yn 'Fardd yr Haf' wedi iddo gipio'r gadair gyda'i awdl. Mae'r gerdd yn enghraifft o'i waith yn ystod ei gyfnod rhamantaidd lle mae'n ymhyfrydu yn 'nhegwch y foment'. Daeth y cyfnod yma i ben gyda chychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan dreuliodd ddwy flynedd yng ngwersylloedd y fyddin yn Lloegr.
Cerddi eiconig
Y Bardd trwm dan bridd tramor...
R. Williams Parry
Ysgrifennodd rai o'i gerddi enwog, fel ei englynion coffa i Hedd Wyn, a sonedau fel Gadael Tir yn ystod y cyfnod yma. A fel gwelir yn y gwaith i goffau Hedd Wyn, roedd yna dipyn mwy o ddyfnder yn perthyn i R.Williams Parry fel bardd erbyn hyn.
Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Gymru i ddysgu mewn nifer o ysgolion cyn dychwelyd i Brifysgol Bangor lle daeth yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg. Priododd yn 1923 ac ymgartrefu ym Methesda.
Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, Yr Haf a Cherddi Eraill (1924) a Cherddi'r Gaeaf (1952). Bu farw yn 1956. Mae ei gerddi yn dal yn boblogaidd ac ar lafar gwlad hyd heddiw. Ysytyrir ef yn un o gewri ein byd barddonol.