Mae Nantlais, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Rhydaman, yn awdur rhai o eiriau mwyaf cyfarwydd yr iaith Gymraeg. Geiriau y mae plant cenedlaethau wedi eu hadrodd a'u canu ar hyd a lled Cymru.
Bardd y Bobl
Dyma'r bardd sy'n gyfrifiol am hoff benillion ein plentyndod. 'Mynd Drot Drot,' 'O Lili Wen Fach' a 'Tu 么l i'r dorth mae'r blawd', i enwi ond tri. Ganwyd William Nantlais Williams ar Ragfyr 30, 1874, ym mwthyn to gwellt, Llwyncwrt ym mhentref Gwyddgrug, yr olaf o 10 o blant. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castellnewydd Emlyn.
Gweithiwr cyffredin oedd ei dad a'i fam yn gwneud ceiniog neu ddwy trwy werthu capiau marched roedd ei fam yn eu creu. Hi ddysgodd Nantlais ddarllen - trwy ei gael i adnabod y llythrennau mawr ar ddechrau pob pennod yn y Beibl!
Yr oedd yn ddisgyblwraig lem, ond yn mynd ar ei gliniau i wedd茂o cyn defnyddio'r wialen fedw ar y plant- nid bod hynny fawr o gysur iddyn nhw, mae'n siwr!
Yn fachgen teimladwy a swil, bu gan Nantlais ddiddordeb mewn barddoni ers yn ifanc iawn ac yn 14 oed dechreuodd gynganeddu.
Y Crefyddwr
Tu 么l i'r dorth mae'r blawd; tu 么l i'r blawd mae'r felin; tu 么l i'r felin, draw ar y bryn, mae cae o wenith melyn.
Nantlais
O gofio ei amgylchiadau teuluol a'r cyfnod, nid yw'n syndod iddo ymddiddori mewn crefydd hefyd ac o Ysgol Ramadeg Castellnewydd Emlyn aeth i Goleg Trefeca. Yno y cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, 'Murmuron y Nant.'
Yn 1900 enillodd gadair 'Eisteddfod Ammanford' cyn i'r enw Rhydaman ddod i fodolaeth. Cyn gorffen ei gwrs yn Nhrefeca, galwyd ef yn weinidog eglwys Bethania a symudodd i fyw yn Rhydaman.Gyda Rhydaman y'i cysylltwyd ers hynny er ei fod ef ei hun yn ymwybodol iawn o'i ddyled i weddill Sir G芒r.
"Yn Sir Gaerfyrddin y cefais i bopeth o bwys," meddai yn ei gofiant, 'O Gopa Bryn Nebo.'Yr oedd hwn yn gyfnod cyfoethog o feirdd-bregethwyr a chymerodd yntau ei le ochr yn ochr a rhai fel Watcyn Wyn, Dyfnallt, Islwyn, Pedrog ac Elfed.
Yn wir, dywedodd yn ei gofiant ei bod yn "uchelgais" ganddo fod yn fardd eisteddfodol llwydddiannus ar y naill law ac yn bregethwr cyrddau mawr ar y llall. Cyflawnodd y ddau beth i raddau helaeth.
Dylanwad y Diwygiad
Er yn gynganeddwr medrus, y delyneg a'r emyn oedd ei gryfder ac enillodd wobr am gyfres o delynegion yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1902 gydag Eifion Wyn ymhlith y 21 oedd yn cystadlu!
Ym 1904, fel sawl un arall, daeth dan ddylanwad ysgubol y Diwygiad a byth wedyn rhannai ei fywyd yn ddau. Y cyfnod cyn y Diwygiad a'r cyfnod wedyn, gyda'r ail yn gyfnod o efengylu angerddol ar ei ran, gydag aelodaeth ei eglwys yn treblu.
Yr oedd galw mawr arno fel pregethwr. Aeth ar daith efengylu i'r Wladfa, hyd yn oed, yn 1938.
Mae'n gyd-ddigwyddiad trist i'r wraig a'i perswadiodd i fynd yno, y llenor, Eluned Morgan, farw ar yr union ddiwrnod yr oedd Nantlais yn dychwelyd i Gymru wedi taith a ystyriwyd yn un hynod o lwyddiannus.
Byd Plant
Mynd drot, drot ar y gaseg wen, mynd drot,drot, i'r dre...
Nantlais
Un o'i rinweddau mawr oedd medru mynd i fyd plant ac mae'n arwyddocaol mai fel bardd y mae llawer yn ei ystyried yn hytrach nag fel gweinidog. 'Moliant Plentyn' oedd enw un o'i gyfrolau casgliad o emynau.
Yr oedd ganddo bump o blant ei hun ond bu farw ei wraig, Alice Jones o Gynwyl Elfed, pan oedd yr ieuengaf ohonyn nhw ond yn bum wythnos oed. Ail briododd ymhen rhai blynyddoedd ag Annie Price.
Nid i blant yn unig y cyfansoddodd a chynhwyswyd ei emynau yn llyfrau emynau mwy nag un enwad:
Uno wnawn 芒'r nefol g么r
I'th foliannu Arglwydd I么r
Yn y dwys ddistawrwydd
Yn dy law y mae f'amserau
Ti sy'n trefnu 'nyddiau'i gyd
Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1944 ond parhaodd i fyw yn Rhydaman ac yno y bu farw, yn 84 oed yn 1959 a gosodwyd plac i gofio W Nantlais Williams ar fur capel Bethania.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn