Cerddor aml-dalentog
Mae Ll欧r Williams wedi derbyn clod aruchel fel pianydd unigol, cyfeilydd a cherddor siambr.
Bu'n perfformio yn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan y ddaeth y Brifwyl i'w ardal enedigol yn 2007.
Mae'r pianydd ifanc a anwyd yn 1976 ym Mhentre Bychan, Wrecsam, wedi cyfareddu cynulleidfaoedd yng Ng诺yl Caeredin, Neuadd Albert, Neuadd Wigmore, Neuadd Steinway, yr Academi Frenhinol, Neuadd Dewi Sant, St Martin-in-the-Fields a llawer mwy.
Pan chwaraeodd yng Ng诺yl Caeredin am y tro cyntaf yn 2002, dywedodd un adolygydd ar y pryd: "What's Williams got that's special? Everything." Mae wedi perfformio yn yr 诺yl bob blwyddyn ers hynny.
Pianydd y Proms
Ers 2002, mae hefyd wedi bod yn un o gyfeilyddion swyddogol cystadleuaeth 91热爆 Canwr y Byd Caerdydd.
Gwnaeth ei ymddangosiad yn y Proms am y tro cyntaf yn 2005 gyda Cherddorfa Symffoni'r 91热爆, dan arweiniad Jiri Belohlavek. Y flwyddyn honno hefyd derbyniodd Ll欧r Williams Wobr Artist Ifanc Neilltuol MIDEM Classique ac International Artist Managers' Association.
Mewn rhaglen ddogfen ar S4C yn 2006, Y Pianydd, datgelodd Ll欧r Williams ei fod eisoes yn dipyn o ffan o opera erbyn iddo gael ei wers biano gyntaf yn saith oed: "Roedd dad yn hoffi gwrando ar opera ac mi roeddan ni'n mynd i Landudno i weld perfformiadau gan y WNO, ac i Fanceinion. Mi ro'n i'n mwynhau gwaith Verdi i ddechrau ac yna yn hwyrach ymlaen pan o'n i'n tua 10 oed ro'n i'n cael fy nenu at Wagner," meddai.
Yn 11 mlwydd oed, roedd wedi pasio ei arholiadau piano Gradd 1-8 gydag Anrhydedd.
Ar 么l gadael Ysgol Morgan Llwyd, astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Queens, Rhydychen gan raddio 芒 dosbarth cyntaf ym 1998. Aeth ymlaen wedyn i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ennill cymhwyster uchaf yr academi, y DipRAM, yn 2002. Enillodd Gymrodoriaeth Shinn yr Academi (2000-2002) pan y bu'n astudio hyfforddi cantorion ac arwain cerddorfeydd yn ystod y ddwy flynedd.
Ennill Enwogrwydd
Ers ymuno 芒 chynllun New Generation Artists 91热爆 Radio3 yn 2003 mae wedi ymddangos fel pianydd unigol gyda Cherddorfa Symffoni'r 91热爆, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆, a Cherddorfa Ffilarmonig y 91热爆.
Roedd ei lun ar glawr CD rhifyn Mehefin 2005 cylchgrawn 91热爆 Music Magazine o weithiau gan Beethoven, Lizt a Schubert.
Rhyddhaodd ei CD masnachol cyntaf o waith Chopin, Pr茅ludes, yn 2006 ar label Quartz.
Ar ddechrau 2007, perfformiodd yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf tra ar daith gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆.
Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Sinfonia Cymru a chynllun Live Music Now! Yn 2004 enillodd wobr o 拢20,000 gan y Borletti Buitoni Trust.
I Bendraw'r Byd
Ymddangosodd yn Proms y 91热爆 yn Llundain ac yn 2009/10 perfformiodd yn Salzburg gyda Cherddorfa Mozarteum ac Ivor Bolton. Yna ymddangosodd gyda'r LPO a Jukka-Pekka Saraste gyda pherfformiadau yn Perth, Awstralia a gyda'r Pomeriggi Musicali ym Milan.
Trwy gydol 2010 perfformiodd Ll欧r 'gylch' sonata Beethoven ledled y DU gan berfformio'n Neuadd Wigmore ac yn ninas Ghent. Rhyddhaodd C2 o weithiau gan Mussorgsky, Debussy a Liszt yn yr un flwyddyn. Roedd hefyd yn destun dwy ffilm a gynhyrchwyd gan S4C; enillodd un ohonynt BAFTA Cymru am y raglen gerddoriaeth orau, a ffocysodd yr ail ar ei 'debut' yn Neuadd Carnegie yn yr UD.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn