Hanesydd a darlledwr oedd Gwyn Alf Williams, un a wnaeth gyfraniad nodedig i'n dealltwriaeth o hanes y Gymru ddiwydiannol a radicalaidd.
Hanesydd Dramatig
Ganwyd Gwyn Alfred Williams yn 1925 yn Nowlais, Merthyr Tudful, ardal ddiwydiannol iawn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Cyfarthfa ym Merthyr, hen gartref y teulu Crawshay, meistri haearn y dref.
Dyn bychan ei gorff ydoedd, ac yn siaradwr cyhoeddus huawdl gyda rhywfaint o atal-ddweud a wnaeth ei lefaru'n tipyn mwy dramatig. Ysgrifennai fel y siaradai, yn lliwgar ac yn gynhyrfus, gyda llif o gyfeiriadau a adlewyrchai ei ysgolheictod eang a'i gymeriad di-flino.
Perthynai i'r Chwith, ac erbyn diwedd ei oes roedd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru, ond nid oedd yn wirioneddol hapus yn rhengoedd unrhyw blaid.
Aeth ymlaen i astudio Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru ym 1954.
Awdurdod ar Sosialaeth
Mae Hanes yn fwy na thudalen mewn llyfr...
Gwyn Alf Williams
Fe'i dyrchafwyd yn Ddarllenydd ac wedyn yn Athro Hanes yng Nghaerefrog ym 1965. Dychwelodd i Gymru ym 1974 fel Athro Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ym 1983.
Roedd Gwyn A. Williams yn awdurdod ar Sosialaeth a Marcsiaeth, a'i brif maes ymchwil oedd hanes trefol y De yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae ei lyfrau'n adlewyrchu ei wreiddiau ym Merthyr - y dref ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru a chrud radicaliaeth politicaidd heb ei ail. Serch hynny, ei waith cyntaf oedd Medieval London: from Commune to Capital (1963), sy'n cael ei gyfrif yn un o'r llyfrau gorau a gyhoeddwyd am Lundain erioed.
Fe'i dilynwyd gan Artisans and Sansculottes (1968), Proletarian Order: Antonio Gramsci, Factory Councils and the Origins of Communism in Italy 1911-1921 (1975), a Goya and the Impossible Revolution (1976).
Gyda'r llyfrau hyn ennillodd fri tu allan i Gymru fel hanesydd treiddgar ac awdurdodol.
Chwedlau a Therfysg
Trodd wedyn at hanes ei wlad ei hun. Ffrwyth cyntaf ei ymchwil oedd 'The Merthyr Rising' (1978), astudiaeth o gefndir a prif gymeriadau yn yr hyn a ddigwyddodd yn yr hen dref ym 1831.
Yn 'Madoc: the Making of a Myth' (1979) archwiliodd y chwedl am ddargynfyddiad honedig America gan y tywysog Cymreig, er bod y llyfr yn llawer mwy na hynny yn ei ddadansoddiad o Gymru a Lloegr yr oes.
Mae 'The Search for Beulah Land' (1980) yn delio 芒 cheisiadau diweddarach i sefydlu gwladfeydd Cymreig yng ngogledd America megis un gan Morgan John Rhys.Hanes tipyn mwy uniongred sydd yn 'The Welsh in their History' (1982).
Yn ystod yr wythdegau, ar 么l i Gwyn A. Williams adael ei swydd yng Nghaerdydd - roedd yn hoff iawn o gyfeirio ato ei hun fel 'redundant historian' - daeth yn darlledwr poblogaidd iawn wedi hyn.
Darlledwr Unigryw
Seiliwyd y gyfres o raglenni teledu cofiadwy, 'The Dragon Has Two Tongues', rhyw fath o ymgom rhyngddo ef a Wynford Vaughan-Thomas, hanesydd llawer mwy ceidwadol a phwyllog, ar ei gyfrol 'When Was Wales?' (1985).
Llwyddodd Gwyn Alf gyda'i arddull cyflwyno tanllyd gyffroi'r gwylwyr am bynciau a allai wedi bod yn go sych. A does neb mewn gwirioedd wedi llwyddo i efelychu ei arddull unigryw a thanbaid yn y maes.
Ymhlith ei rhaglenni cofiadwy eraill mae 'Excalibur: the Search for Arthur, The Delegate for Africa', sef David Ivon Jones (1883-1924), a rhai am Saunders Lewis a Iolo Morganwg, lle datblygodd ei ddull unigryw o annerch y gwyliwr a'r gwrthych mewn ffordd agos-atoch, emosiynol a dadlennol.
Bu farw Gwyn A.Williams ym 1995. Ar 么l ei farwolaeth ymddangosodd 'Fishers of Men: Stories towards an Autobiography' (1996), sef atgofion am ei febyd ym Merthyr a'r amser a dreuliodd yn y Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae yna Wobr BAFTA Cymru yn ei enw i'r rhaglenni Hanes gorau.
Meic Stephens