Dechrau Gyrfa
Yn frodor yn wreiddiol o Bwllheli, ganwyd Endaf Emlyn ar 31 Gorffennaf 1944. Roedd dawn gerddorol Endaf Emlyn Jones yn amlwg o oedran cynnar.
Bu'n aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru yn ei arddegau, gan chwarae'r ffidil (aelod arall o'r gerddorfa oedd y Cerddor byd-enwog, John Cale).
Dechreuodd ar ei yrfa fel cyflwynydd rhai o'r rhaglenni pop cyntaf yn y Gymraeg, a bu'n gweithio tu 么l i'r llenni fel rheolwr llawr mewn stiwdios teledu. Yn ddiweddarach, ef oedd cynhyrchydd rhaglen Sgrech a roddodd lwyfan i fandiau Cymraeg newydd ddiwedd y 70au.
Rhyddhawyd ei albym gyntaf, 'Hiraeth' yn 1974, albym a gyfunai ddehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws. Roedd rhai o'r technegau a ddefnyddiodd i greu s诺n arbennig, fel aml-dracio ei lais, a'r ffaith iddo recordio rhan o'r albym yn ei stafell ffrynt, yn arwydd o artist oedd 芒 syniadau a thrywydd artistig ei hun.
Teyrnged i'r Gorffennol
Ymestynnir ar egin-them芒u 'Hiraeth' yn ei ail albym, 'Salem', albym gysyniad sy'n portreadu hanes y cymeriadau yn llun enwog Curnow Vosper.
Rhoddodd hyn rwydd hynt i ddychymyg Endaf grwydro yn fyfyriol am fywydau pobl fel Si芒n Ty'n y Fawnog a Robat o Gae'r Meddyg mewn cyfres o ganeuon swynol. Er mai talu teyrnged i dreftadaeth grefyddol Cymru wledig a wna, nid oedd yn syllu'n 么l yn hiraethus ar y gorffennol. Roedd rhaid parchu'r gorffennol a lledu gorwelion i symud y diwylliant ymlaen. Megis dechrau oedd ei daith gerddorol.
Roedd ei drydedd albym, 'Syrffio mewn Cariad' (1976), yn gwireddu addewid yr awdur yn Salem i deithio'r byd, ac roedd y caneuon yn dapestri cyfoethog o'i anturiaethau dychmygol - cyrhaeddodd lannau Santiago, ac ymlaen i ladrata ym manciau'r Andes, smocio opiwm yn Shanghai, a chael ei longddryllio ym M么r y De!
Ffwnc yn ei waed
Roedd y tirwedd cerddorol wedi newid yn sylweddol hefyd, ac roedd llawer mwy o ddefnydd o syntheseisers ac effeithiau stiwdio eraill i ychwanegu naws a blas i'r cefndir egsotig. Gellid dweud bod y ffwnc yn ei waed erbyn hynny, a gadawodd ei yrfa unigol o'r neilltu am sbel, a bu'n aelod o'r gr诺p Injaroc a ryddhaodd un albym, 'Halen y Ddaear' (1977), a'r siwpyr-gr诺p byrhoedlog, 'J卯p', a oedd yn cynnwys rhai o gyn-aelodau 'Edward H Dafis'.
Tyfodd hadau y cyd-chwarae grymus a'r arbrofi pellach mewn arddulliau newydd yn y grwpiau hyn i'w llawn d诺f yn ei albym unigol olaf, ei gampwaith 'Dawnsionara' (1981). Dyma glasur o'i chorun i'w sawdl - o'r riff cyffrous cyntaf ar 'Paranoia', i ddychan 'N么l i'r Fro' a 'Saff yn y Fro' hyd at anterth y c么r o leisiau 'Beach Boys'-aidd ar ddiweddglo 'Rola'.
Dangosai trefniant a chymhlethdod jazz-ffync aml-haenog y caneuon a chwarae'r band feistrolaeth ac aeddfedrwydd anghyffredin mewn roc Cymraeg ar y pryd.
Er hynny, nid oedd croeso eang gan gynulleidfaoedd Cymru i'w weledigaeth gerddorol.
Talent Ffilm
Ar 么l hudoliaeth delynegol a thir cyfarwydd 'Hiraeth' a 'Salem', roedd cymhlethdod ac ehangder estron 'Syrffio Mewn Cariad' a 'Dawnsionara' yn ormod i rai a hoffai eu pleserau'n fwy syml ac uniongyrchol.
Perfformiwr byw swil ydoedd ar y gorau hefyd, a thawelodd gyrfa gerddorol Endaf Emlyn gyda'r albym honno. Rhyddhaodd dwy albwm yn fwy diweddar sef casgliad cyflawn o'i albymau yn 'Dilyn Y Graen' (2003) ac albwm newydd, 'Deuwedd' (2009). Cafwyd cyfle i ailfantoli ac ailwerthfawrogi ei gyfraniad.
Mae'n werth nodi mai ef a gyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y 91热爆, Pobol y Cwm, sydd wedi ei chlywed ar ein sgriniau (mewn gwahanol fersiynau) yn ddi-dor ers 1974!
Bellach, mae'n fwy adnabyddus fel cyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn 'Un Nos Ola Leuad', 'Stormydd Awst', 'Gadael Lenin', 'Mapiwr' ac 'Y Storm'. Sefydlodd gwmni ffilm a theledu Gaucho oedd yn weithgar iawn yn y 199gau gydag addasiad teledu o 'Un Noson Ola Leuad' yn arbennig o lwyddiannus.
Heddiw, cydnabyddir ei le yn rheng flaen arloeswyr pennaf y s卯n roc Gymraeg ac fel Cyfarwyddwr Ffilm o safon.