Hanes y diweddar Eirug Wyn, Llenor amryddawn o'r Groeslon ag enillodd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen ddwywaith -y dwbwl dwbwl!
Dyddiau cynnar
Treuliodd Eirug Wyn ei ieuenctid yn Neiniolen gan fynychu'r ysgol leol ac Ysgol Brynrefail.
Symudodd Eirug a'r teulu i fyw i Ddeiniolen ar ddiwedd y Pumdegau pan apwyntiwyd ei Dad, Y Parch. John Price Wynne, yn Weinidog ar Gapel Cefn-y-Waun. Er i Eirug gael ei eni a'i fagu yn Llanbrynmair, a threulio'r rhan fwyaf o'i oes yn Y Groeslon, fedra i ddim peidio meddwl amdano fo fel hogyn o Ddeiniolen. Mi fu'n ddisgybl yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ac bu dylanwad yr ardal yn gryf arno fo fel person, ac ar ei waith fel sgwennwr.
Daeth Eirug i'r pentra ar gychwyn un o'r degawdau mwyaf cyffrous yn hanes diweddar Cymru, ac mi chwaraeodd yntau ei ran yn yr hanes hwnnw. Mae'n deg dweud nad oedd hi mor hawdd bod yn genedlaetholwr yng Nghymru yr adeg honno, ond roedd argyhoeddiad Eirug am yr hyn yr oedd o'n gredu ynddo, a'i ddyfalbarhad wrth lynu at ei egwyddorion, yn ysbrydoliaeth i lawer oedd yn ei 'nabod.
Dyn y 'gwneud' nid dyn y 'dweud' oedd Eirug. Dyna pam y rhoddodd o ddwy lythyren 'D' ar ei gar tra'n dysgu gyrru. Mi roedd y peth mor syml o amlwg - iddo fo. A do, mi dynnodd nyth cacwn i'w ben, ond roedd o'n gwybod ei fod o'n gwneud y peth iawn. Yn ystod cyfnod y teulu yn Neiniolen hefyd y cafodd Eirug ei garcharu am ei ran yn yr ymgyrch i gael arwyddion dwyieithog yng Nghymru, a dyna ddwy enghraifft o frwydrau sydd bellach wedi eu hennill i'r Gymraeg.
Ymgyrchu ac Ysgrifennu
Ond yn wahanol i ambell un, wnaeth o erioed gredu fod y frwydr dros barhad y Gymraeg wedi ei hennill yn llwyr. Mi fuodd o'n ymgyrchu drosti yn ei ffordd ei hun ar hyd ei oes. Rhan o'r frwydr honno oedd agor siopau llyfrau Cymraeg, cyhoeddi a sgwennu llyfrau Cymraeg, a rhoi ei ysgwydd dan faich sawl mudiad, cymdeithas neu sefydliad Cymraeg.
Daeth i sylw cenedlaethol fel sgwennwr am y tro cyntaf pan enillodd goron Eisteddfod yr Urdd ym 1974. Dyddiadur wythnos oedd y testun, ac Eirug yn penderfynu sgwennu dyddiadur dyn oedd yn ei arch, o ddiwrnod ei farw hyd at ddiwrnod ei gladdu.
Roedd y gwaith yn llawn hiwmor, ac fel petae hynny ddim yn ddigon mi yrrodd y gwaith i'r gystadleuaeth ar ddarnau o bapur wedi eu torri ar ffurf arch, a chlawr cardbord ar y dechrau a'r diwedd. Sylw un o'r beirniaid am hyn oedd mai "dim ond ff诺l neu athrylith" fuasai'n meddwl gwneud y ffasiwn beth.
Colli Cyfaill
Er iddo barhau i sgwennu trwy'r blynyddoedd, bu'r cyfnod o ddechrau'r Nawdegau tan ei farwolaeth yn gyfnod eithriadol o gynhyrchiol iddo. Cyhoeddodd o leia bymtheg cyfrol yn ystod y cyfnod yma, yn eu mysg ddwy gyfrol a enillodd Y Fedal Ryddiaith, a dwy arall ddaeth a Gwobr Goffa Daniel Owen iddo.
Ond efallai mai'r stori fwyaf oedd stori ei fywyd ei hun. Mynd amdani hefo'i droed ar y sbardun ym mhob dim yr oedd o'n ei wneud. Roedd o'n ymgyrchwr tanbaid, yn gymeriad allai wneud i bobol rowlio chwerthin, ac yn ffrind gyda'r mwyaf triw y medra dyn ei gael.
Y geiriau a'r chwerthin fydd yn aros yn y cof. Hynny yn ogystal a'r caredigrwydd a'r haelioni oedd yn gymaint rhan ohono fo. Cenedlaetholwr, cymeriad, cyfaill.
Bu farw Eirug Wyn o ganser yn 53 oed yn 2004. Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar wefan 91热爆 Lleol gyda diolch i Bapur Bro Eco'r Wyddfa.