Nofelwraig toreithog
Ers ennill gwobr y 'nofel agored' yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon gyda'i nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd yn 20 oed, daeth Eigra Lewis Roberts yn un o brif awduron y Gymru gyfoes.
Mae wedi ysgrifennu bron i 30 o gyfrolau, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a drama a hi oedd awdures cyfres deledu boblogaidd yr 80au, Minafon.
Cafodd ei geni ym Mlaenau Ffestiniog a'i haddysgu yn Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol, Bangor.
Ar 么l graddio, bu'n dysgu am gyfnod yng Nghaergybi a Llanrwst cyn troi at ysgrifennu a magu teulu.
Mae'n byw bellach yn Nolwyddelan ac yn briod gyda Llew a chanddi dri o blant - Sioned, Urien a Gwydion - a nifer o wyrion ac wyresau.
Realiti bywyd
Nid yn annhebyg i Kate Roberts o'i blaen, mae ei gwaith wedi delio i raddau helaeth 芒 realiti bywyd bob dydd y gymdeithas fodern.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974. Yn 1995 cafodd wobr Baffta Cymru am y sgriptiwr gorau ac mae wedi ei hanrhydeddu 芒 gradd MA am ei chyfraniad i lenyddiaeth Cymru a'i derbyn yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru.
Yn 2006, ar ddiwrnod ei phen-blwydd, enillodd ei choron gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am ddilyniant o gerddi am fywyd stormus y bardd Sylvia Plath, a gyflawnodd hunanladdiad yn 30 oed. Y testun oedd Fflam a'i ffugenw oedd Gwyfyn.
Bardd a Llenor medrus
Disgrifiodd y berniaid, Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis, ei gwaith buddugol fel "casgliad o gerddi cywrain gan fardd medrus a lwyddodd i greu cerddi cyfoethog sm un o feirdd mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif; un a drodd ei bywyd fel ei marwolaeth yn drasiedi fawr."
Meddai Eigra wedi'r seremoni: "Mae ennill unrhyw wobr yn wych - ond roedd yna rywbeth yn arbennig iawn yngl欧n 芒 heddiw. Mae hwn yn rhywbeth gwahanol - yn rhywbeth roeddwn i eisiau rhoi cynnig arno ers talwm - roedd yn her ac yn sialens a dwi'n mwynhau unrhyw sialens ac yn mwynhau rhoi cynnig ar unrhyw gyfrwng ac yr oedd hwn yn rhywbeth hollol wahanol."