Y Tad Deiniol yn s么n am ddathlu'r Nadolig, ei gymuned a pherthynas crefydd a gwleidyddiaeth
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Dathlu'r Nadolig
Yn yr Eglwys Uniongred ar Ionawr 7 y bydd y gwasanaeth i ddathlu'r Nadolig.
Ond er yn un o 12 o wyliau pwysig yr Eglwys dywedodd yn o'i heoffeiriaid mai ail yw'r Nadolig o ran pwysigrwydd i'r Pasg yn yr Eglwys Uniongred.
Yr oedd y Tad Deiniol, sy'n offeiriad Eglwys Uniongred ym Mlaenau Ffestiniog, yn siarad gyda Dewi Llwyd ar ei raglen foreol ddydd Sul Rhagfyr 20 2009, ar 91热爆 Radio Cymru.
Disgrifiodd y Nadolig fel "G诺yl yr ymgnawdoliad".
"[Mae] g诺yl genedigaeth yr Arglwydd Iesu Grist yn bwysig iawn i unrhyw Gristion ac yn un o 12 g诺yl fawr yr Eglwys Uniongred. Efallai yn y gwledydd uniongred bod y Pasg yn chwarae rhan mwy blaenllaw [a'r] Nadolig ychydig yn llai amlwg ei dathliadau ond serch hynny yn un o wyliau mawr yr Eglwys," meddai.
"Wrth gwrs rydym ni'n defnyddio'r hen galendr Julian sydd yn rhoi dipyn o gyfle i adfer dipyn o nerth ar 么l y rhuthro adeg y Nadolig ar y 25 o Ragfyr - felly ar y seithfed o Ionawr y bydd y gwasanaeth Dolig ei hun," eglurodd.
Am holl ymwneud y Nadolig arferol 芒 thrimins ac anrhegion dywedodd:
"Wel ie, iawn ynde. Dathlu efo pobl sydd yn dathlu, llawenhau efo pobl sydd yn llawenhau, cydymdeimlo efo pobl sy'n galaru - does yna ddim byd amhriodol am y trimins . Mae'r Eglwys Uniongred yn hapus iawn efo dathlu."
Yn y gymuned
Bu'r Tad Deiniol yn siarad hefyd am ei waith yn y gymuned. Yn ardal Blaenau Ffestiniog lle y dechreuodd y eglwys yn ei gartref cyn i eglwys gael ei brynu oddi ar yr Eglwys Anglicanaidd.
"Rydw i wedi hen ddiflasu ar weld cyn ddisgyblion imi, plant i ffrindiau imi, ar gyffuriau dosbarth A am flynyddoedd.
"Mae eu bywydau wedi eu difetha, mae'n anodd dros ben goresgyn y broblem yma ond wrth gwrs mae'r problemau yma, problemau o'r math yma ac yn benodol problem cyffuriau, yn ffynnu mewn ardaloedd difreintiedig o ddiweithdra ac felly mae cael gwaith i ardal yn bwysig . . . mae'n sefyllfa ddigalon iawn mae'n anodd dros ben i berson sy'n gaeth i heroin ddod oddi ar heroin ac wedyn os do nhw'n 么l i'w cynefin [ar 么l rehab] maen nhw'n cymryd cyffuriau yn syth ond waeth heb na digalonni rhaid gwneud rhywbeth am y peth a'r ateb ydi cyflogaeth.
Diwydiant cynhenid yn cynnig ateb
Gw锚l ran o'r ateb yn niwydiant cynhenid yr ardal:
"Ym Mlaenau Ffestiniog mae'r diwydiant llechi yn bodoli . . . ac mae pob haen o lywodraeth eisiau gwneud defnydd o'r gwastraff llechi . . . mae'n addas dros ben ar gyfer is-falast ond mae'n stwff o werth isel iawn felly does dim posib ei gario fo ymhell ar loriau oherwydd mae cost y lori yn fwy na gwerth y cynnwys a'r unig ffordd o'i symud ydi ar y rheilffordd.
"Wel, mae'r cynllun o wneud hynny wedi bod yn cael ei drafod ers deng mlynedd ac er bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario tua 拢100m ar ffyrdd yn ardal Blaenau Ffestiniog dydyn nhw ddim yn fodlon rhoi llai na chwater hynny i uwchraddio'r rheilffordd i greu cyflogaeth.
"Mae gennym ni ffordd o adfywio Blaenau Ffestiniog yn economaidd ond dydi'r Llywodraeth ddim yn gwireddu hynny a dwi'n meddwl fod hyn yn rhywbeth difrifol iawn.
Dylanwad archesgob
Un o F么n yw'r Tad Deiniol yn wreiddiol ond wedi ei fagu yn Wrecsam. Wedi coleg yn Llundain daeth yn athro yn Ysgol Ardudwy.
Daeth i gysylltiad a'r Eglwys Uniongred oherwydd ei ddiddordeb cyffredinol mewn diwinyddiaeth.
"A theimlo'n gartrefol iawn yn yr addoliad yn benodol. Ar wah芒n i hynny cefais y cyfle i wrando lot ar . . . yr Archesgob Anthony. Dyn diddorol dros ben oedd yn fab i lysgennad olaf Tsar Nicholas yr Ail yn Iran.
"Yn 诺r ifanc roedd o'n anghrediniwr rhonc ar 么l bod yn y fyddin yn Ffrainc . . . yn llawfeddyg yn y fyddin . . . ac yn y Resistance yn Ffrainc fe gafodd ei ordeinio a'i anfon i Lundain [lle bu'n] gweinidogaethu weddill ei oes.
"Yn ogystal 芒 darlithio a gweinidogaethau yr oedd yn egluro mewn ffordd syml a diffwdan iawn bethau elfennol fel sut i wedd茂o a sut i amgyffred Duw.
"Mi agorodd ddrysau'r Eglwys Uniongred i bobl oedd yn chwilio," meddai.
Crefydd a gwleidyddiaeth law yn llaw
Wrth drafod ei agwedd tuag at y bywyd Cymreig mynegodd ei falchter i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu yng Nghymru gan fod hynny'n cyd-fynd 芒'i gred fod yn rhaid i unigolion a chymunedau a gwledydd gymryd cyfrifoldeb dros eu bywydau eu hunain.
"Mae hynny yn rhan o fy nghefndir Wesleaidd i sydd yn credu mewn ewyllys rydd - ond mae yna gyfrifoldeb ar y Cynulliad yma i ddatblygu mewn ffordd lle mae, er enghraifft, atebolrwydd yn flaenllaw," meddai.
Mae'r cyfuniad o'r crefyddol a'r gwleidyddol yn rhywbeth cwbl naturiol iddo.
"[Rwy'n] credu bod dimensiwn ysbrydol i bob peth a dimensiwn gwleidyddol i bob peth a bod hyn yn hanfod Cristionogaeth.
"Oherwydd mae Cristionogaeth yn grefydd ymgnawdoledig yn s么n am fab Duw sy'n dod i fyw ar y ddaear yn y cnawd ac felly nad ydan ni mewn rhyw geto ysbrydol yn dianc oddi wrth y byd ond ein bod ni yno yng nghanol y byd fel yr oedd Iesu Grist ac fel mae Iesu Grist trwy ei eglwys ac felly dyna ddyletswydd yr eglwys," meddai.