91热爆

Cyflwyno siec y Trydydd Byd

Cyflwyno siec y Trydydd Byd

Jeff Williams yn sgrifennu o'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen

Dydd Mawrth
Y llynedd aeth Jack Martin o Gastell Newydd Emlyn i wirfoddoli yn Ghana fel rhan o gynllun .

"Flwyddyn yn ddiweddarach, rwy'n gwisgo bathodyn Cynhadledd y Cenehdleodd Unedig ar Newid Hisawdd, a dwi'n methu credu'r peth!" medda fe wrthai gynne.

Ysbrydolwyd Jack gan waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Ghana ac erbyn hyn mae'n gwirfoddoli gyda ni yng Nghymru ar gynllun blwyddyn GAP.

Mae'n un o'r t卯m ieuenctid gwirfoddol sydd gan Gymorth Cristnogol yn Copenhagen - yn dosbarthu taflenni, rhannu gwybodaeth, edrych ar 么l partneriaid tramor ac ati.

Wrth i gynrychiolwyr y gwledydd gyrraedd Canolfan Bella ar gyfer eu brecwast, roedd Jack a'i ffrindiau yno i'w croesawu, ac i gyflwyno anfoneb am $150 biliwn i'r negydwyr ar ran y gwledydd llai datblygedig.

Os yw'r gynhadledd hon i lwyddo, dyma'r swm sydd ei angen ar y gwledydd tlawd er mwyn medru addasu i ergydion newid hinsawdd.

Ac nid gweithred "elusennol" fyddai hyn, nac arwydd arall o haelioni gwledydd cyfoethog - ond rhan o'r ddyled sydd wedi cronni yn sgil datblygiad diwydiannol ac economaidd y ganrif neu fwy diwethaf.

Mae rhai gwledydd wedi llygru llawer mwy na'u si芒r o'r gofod atmosfferig gyda nwyon t欧 gwydr wrth mynd yn fwy a mwy cyfoethog. Daeth yr amser i dalu'r ddyled yn 么l.

Mae'r lle yma'n rhyfeddol!
Mae fel sawl Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Amaethyddol gyda'i gilydd - i gyd dan yr un to.

'Dwi erioed wedi gweld canolfan mor fawr, a dwi heb weld hanner y lle eto!

Stondinau o bob math yn "gwerthu" eu safbwyntiau gwahanol, gyda phawb am y gorau i ddenu sylw y cyhoedd a'r cyfryngau.

A da gweld Cymro ifanc fel Jack ymhlith yr ymgyrchwyr.

Cyfraniadau eraill Jeff Williams

Gwefan Cymru Werdd 91热爆 Radio Cymru


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.