Ar 么l gadael y stiwdio bore 'ma, mi fydda i a Llinos fy nghydweithwraig yn troi trwyn y car tua'r de ac yn gyrru i Drefeca ar gyfer cyfarfod blynyddol gweithwyr a phartrneriaid cenhadol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Be ar y ddaear ydy cyfarfod o'r fath medda chi?
Mae'r Presbyteriaid yn cyflogi nifer fawr o weithwyr cenhadol ar hyd a lled Cymru a'r rheini yn amrywio o gaplaniaid diwydianol a galluogwyr cenhadol i weithwyr cymunedol a ieuenctid ac mae'r cyfarfod blynyddol yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd gyda swyddogion yr Eglwys i edrych yn 么l ar waith y flwyddyn ac i edrych ymlaen am flwyddyn arall o weithgaredd.
Gobaith ac annogaeth
Bydd yn gyfle i rannu straeon o obaith ac i roi annogaeth pan fo'r gwaith yn gallu bod yn anodd.
Ac er fod y daith yn un faith i'r ddwy Gofi o Noddfa, byddaf wastad yn falch o gael bod yn y cyfarfod, nid yn unig am y cyfle i sgwrsio 芒'm cydweithwyr a rhannu hanesion ond am fy mod yn gadael wedi fy ysgogi a'm bywiogi o feddwl am yr holl weithgaredd sy'n mynd ymlaen yng Nghymru heddiw yn enw Iesu Grist.
Yn aml, tueddu i ganolbwyntio ar y negyddol mae llawer o aelodau capeli Cymru heddiw. Cofio sut yr oedd pethau ddoe. Mae'r cynulleidfaoedd yn llai, y dylanwad cymdeithasol wedi diflannu, y nifer o aelodau ymroddedig yn lleihau.
Ond - ac mae hwn yn ond mawr - mae yna lond gwlad o weithgaredd yn cael ei gyflawni yng Nghymru gan Gristnogion o amrywiol enwadau a thraddodiadau a dylai dathlu hynny fod yn flaenoriaeth gennym.
Ar daith
Mae Undeb yr Annibywnyr Cymraeg ar hyn o bryd ar daith o amgylch y Cyfundebau yn hyrwyddo Rhaglen Ddatblygu yr enwad ac yn annog ac ysgogi aelodau.
O mi fydd yna gwyno - dwi'n siwr - dyma ni, trafod eto, ydy hyn yn mynd i ddod a mwy o bobl i'n capeli ni?
Pwy a wyr? Ond un peth dwi'n sicr ohono, petaen ni'n canolbwyntio ar yr hyn sydd yn digwydd, byddai llai o amser i hiraethu am ddoe.
Her i bob cyfnod
All pethau ddim bod yr un peth ym mhob cyfnod.
Mae pob cyfnod yn wynebu ei her ei hun a her yr Eglwys heddiw ydy gwneud Iesu Grist yn berthnasol i r诺an a chyflwyno Iesu i'n cymunedau drwy amrywiol ffyrdd fel mae'r Presbyteriaid a'r Annibynwyr yn ceisio'i wneud.