Roedd yn ddiddorol iawn gyrru adre yn y car brynhawn ddoe a gwrando ar y newyddion.
Roedd hi'n amlwg yn dipyn o anhawster i'r golygyddion gwahanol benderfynu beth oedd yn haeddu ein sylw.
Roedd yn dipyn o syndod i mi fod yr adolygiad i bensiynau wedi ei roi gan un yn agos at ddiwedd rhaglen awr.
Ac wedyn, ni chaed ond barn Yr Arglwydd Hutton, rhyw fachan o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, un arall o Sefydliad Ariannol asgell dde ac, yn y canol, hanner brawddeg gan arweinydd undeb.
Drwy'r cwbl, yr ensyniad oedd fod hyn yn angenrheidiol ac na ddylid disgwyl i drethdalwyr barhau i dalu am hyn.
Derbyn yn ddi-gwestiwn
Roedd yn ddiddorol, oherwydd mae'n amlygu parodrwydd cynyddol yn y wasg i dderbyn yn ddi-gwestiwn fod yn rhaid i bobl gyffredin wynebu cynni ariannol yn fwy nag unrhyw sector arall.
Dyma'r haen sydd wedi gweld rhewi eu cyflogau, rhywbeth sy'n golygu gostyngiad, sydd yn wynebu'r posibilrwydd o golli swyddi, sydd, nawr, yn wynebu gostyngiad pellach yn eu cyflogai misol i gyfarfod 芒 chynydd yn eu cyfraniadau pensiwn, er mwyn cael llai o bensiwn yn y diwedd!
Pa un o'r nyrsys yma, yr athrawon yma, y glanhawyr yma, yr ymladdwyr t芒n yma oedd yn gyfrifol am y giamocs fu bron 芒 gadael y wlad gyfan yn feth-dalwyr?
A beth bynnag, hwy yw y trethdalwyr. D'oes dim cyfrifyddion gan y rhain sydd yn eu galluogi i osgoi talu eu trethi. Jest talu, a chael dim yn 么l.
Pryder y Cristion
Pam fod hyn o ddiddordeb i mi? Wel, fel hyn mae hi. Dwi'n Gristion, ac fel un sydd wedi profi daioni Duw yn delio gyda'm hangen, yn cyfoethogi, yn trawsnewid fy heddiw ac yfory, mae gen i ddiddordeb mewn angen pobl, yn ysbrydol ac yn dymhorol.
I genhedlaeth sydd wedi ei magu i gredu fod gwerth pobl yn dibynnu ar eu gwerth economaidd, ar eu gallu economaidd, mae'r rhai sy'n dioddef yn economaidd yn gorfod bod yn ddi-werth, yn rhai y medrwn eu beio am eu cyflwr.
Pendraw naturiol dyneiddiaeth di-dduw yw'r honiad na allwn ond caniat谩u i'r cryf gryfhau a gorchfygu - i'r galluocaf oroesi.
Mae Duw yn leinio cyfoethogion am sathru ar y tlodion, am gymryd mantais, am ddwyn oddi wrth gweddwon.
Mae Cristnogion i ochri gyda'r tlawd, maent i wneud hynny yn fwriadol.
Mae'r rhain, nid yn ddamwain, neu yn anghyfleustra, ond yn greadigaeth, ar lun a delw Duw.
Mae eu gwerth yn yr hyn ydynt yn gynhenid, yn y ffaith fod gan Dduw gymaint o feddwl ohonynt, fel ei fod ef yn dod yn dlawd i'w cyfoethogi.