Dydd G诺yl Dewi - ia, dwi'n gwybod mai ddoe oedd o - ond dwi'n teimlo mod i'n dal i ddathlu ac i ddweud a gwir dwi wedi treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos ddiwethaf yn dathlu - rygbi, tri chyngerdd, diwrnod agored a gwasanaeth arbennig yn Noddfa, Caernarfon a chawl a chacennau cri nes eu bod nhw'n dod allan o 'nghlustiau i.
Yr hyn mae'n ei olygu
Dwi wedi bod yn meddwl llawer yn ddiweddar beth mae'n olygu i fod yn Gymro neu'n Gymraes. Mae ganddo ni hanes cyffrous a phoenus ond mae'r ffaith mod i yma y bore 'ma, yn rhydd i fynegi fy hun yn fy mamiaith yn dangos ein gwytnwch ac yn ganlyniad i'r ymdrech a'r gwaith a wnaed gan gymaint o Gymry ac sy'n parhau i gael ei gyflawni.
Mae'n gyffrous i mi hefyd weld sut mae Cristnogaeth wedi chwarae rhan hanfodol yn ei hanes a'n diwylliant ni. Mae llawer yn hoffi anwybyddu'r ffaith honno y dyddia' yma gan fynnu y dylai aros yn y gorffennol gan mai Cymru ddoe yw Cymru'r capel a'r gymanfa.
Mynnu byw eu ffydd
Ond dwi ddim yn s么n am gapel na chymanfa. Dwi'n s么n am bobl o ffydd sydd wedi mynnu byw y ffydd honno gan ddefnyddio Crist fel esiampl ym mhob agwedd o fywyd.
Mae llawer yng Nghymru heddiw yn gallu bod yn ddilornus iawn o Gristnogion a chysylltiad y bywyd Cymreig 芒 ffydd ond allwn ni ddim gwadu fod Cymry sydd 芒 ffydd - o Ddewi Sant ymlaen - wedi cyfrannu llawer i'n cymdeithas ar hyd y canrifoedd.
Cyn i rywun anfon negeseuon cas ata'i - dwi ddim yn dweud fod yn rhaid ichi gael ffydd i ymddwyn felly ond beth am gydnabod bod Cristnogaeth wedi helpu i'n siapio fel cenedl?
Mae cymaint o'r egwyddorion hynny sy'n hanfodol inni; cyfiawnder, tegwch, addysg i bawb, gofal am gymdeithas a chymod, yn deillio o hynny.
Mwy o angen nag erioed
Mewn byd cynyddol faterol, barus a hunanol mae mwy o angen nag erioed am leisiau i fynnu cyfiawnder a thegwch yn lleol yn ein cymunedau, yn ein gwlad ac yn fyd-eang.
Ac wrth i filiynau fynnu rhyddid a chyfiawnder yn ein byd ar hyn o bryd na fydded inni fyth gymryd ein rhyddid gwleidyddol na'n rhyddid i fynegi barn yn ganiataol.