Dydd G诺yl Dewi hapus i chi i gyd. Gobeithio ein bod yn ymfalch茂o yn ein hunaniaeth cenedlaethol bod dydd o'r flwyddyn.
Tybed pa ganran o boblogaeth Cymru fydd yn cofio arwyddoc芒d y dydd, ac yn gwneud rhywbeth i ddathlu hynny.
I Ddewi, gwneud y pethau bychain fyddai'n cyfrif, fel siarad yr iaith a bod yn llawen ym mhob dim. Prin y byddai ef yn cymeradwyo clywed Cymry Cymraeg yn siarad Saesneg gyda'i gilydd neu rieni yn esgeuluso magu eu plant yn y Gymraeg.
Dathlu gydag alcohol
Mae'n annhebyg na fyddai Dewi yn falch o weld dathliadau gydag alcohol ychwaith. Unig ddiod y sant fyddai d诺r gl芒n o'r ffynnon.
Beth fyddwch chi'n ei wneud i hyrwyddo'r iaith, ac i sicrhau bod y genedl yn datblygu fel cenedl? Mae gen i ofn yn aml fod nifer o'n plith yn ddibris o'n hunaniaeth a'n hetifeddiaeth.
Bu llawer o drafod yn ddiweddar am werin y cenhedloedd yn y Dwyrain Canol yn darganfod eu llais. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad wyf yn sicr sawl uned sydd yn ffurfio Libya, neu sawl llwyth a chenedl wedi eu cywasgu at ei gilydd yw'r wladwriaeth.
Gobeithio am drefn
Dyna hanes cymaint o wledyddion ar gyfandiroedd ein byd. Does gen i ond gobeithio y daw trefn o anhrefn gwledydd fel yr Aifft, Tunisia a Libya, ac y bydd pob dinesydd yn cael cyfle i ddatblygu ei hunaniaeth.
Mae parch at hawliau'r unigolyn yn lledu i fod yn barch at deulu, llwyth a chenedl. Onid dyna oedd gan Waldo mewn golwg wrth s么n am yr un gwraidd o dan y canghennau.
Neges Paul
Brawddeg yr Apostol Paul oedd ceisio meithrin dynoliaeth llawn dwf, a cheisio bod yn ddinasyddion cyfrifol gartref a ledled y byd.
Mae'r ffordd y byddwn yn parchu ein hunain, yn cael ei adlewyrchu yn ein ffordd o feddwl am eraill, onid yw.