Serch a chariad - ar fwy na dydd g诺yl!
Ac felly dyna Ddydd San Ffolant arall wedi pasio. Byddai'r sinigiaid yn dweud mai llwyddiant PR ysgubol yw'r diwrnod hwn, a dydd Santes Dwynwen i'w ganlyn, a dim byd arall.
Cofiwch, fel Bedyddwraig dydw i ddim i fod i ddathlu uchelwyliau seintiau a rhaid cyfadde bod fy ng诺r yn cymryd hynny'n esgus dros beidio 芒 gwastraffu ei arian ar nodi diwrnod Dwynwen na Valentinus.
Does gen i fawr o ots - gwyliau 'gwneud' yw'r ddwy 诺yl a llenorion yn gyfrifol am y ddau o bosib - Chaucer am Ddydd San Ffolant a'r nofelydd Jane Edwards am Ddiwrnod Dwynwen, yn 么l y s么n.
Ond y cwestiwn a ofynnaf i yw hyn: pam fod byd mor seciwlar 芒'n byd ni yn defnyddio enw santes Geltaidd a merthyr Rhufeinig ar gyfer dangos ein serch at ein hanwyliaid yn y lle cyntaf?
A hithau'n oes lle mae siarad am garu a chael perthynas yn beth rhyfeddol o hawdd ei wneud, a dangos lluniau a delweddau o bobl yn ymglymu yn ein bombardio o bob cyfeiriad, er mwyn rhannu ein serch 芒'n partneriaid agosaf, rhaid cael diwrnod arbennig. Hmm.
Tywallt anrhegionl!
Mae rhai oedd wedi tywallt anrhegion a moethau ar ben eu cariadon ar ddydd sant Ffolant erbyn y bore 'ma, wedi cweryla ac yn cecru fel pe bai ddoe erioed wedi digwydd.
Mae yna gapelwyr felly on'd oes? Mynd i'r cwrdd ar y Sul ond yn anghofio brawdgarwch, graslondeb a thrugaredd erbyn dydd Llun.
Yn y galon y mae Cristnogaeth yn byw, a hynny drwy'r amser, nid yn adeilad y capel am ddwy awr yr wythnos.
Nawr bod Dydd Santes Dwynwen yn hen atgof a blodau'r Ffolant hefyd yn dechrau gwywo, gobeithio y byddwch chi'n cofio dweud, "Rwy'n dy garu di", wrth eich cymar bob dydd - gan ddangos hynny mewn gweithred nid 芒 siocledi a blodau - a hynny nid dim ond ar ddydd g诺yl penodol.
A pham lai na alla i ychwanegu mod i'n gobeithio nad dim ond ar y Sul y byddwch chi'n dweud yr un peth wrth Iesu chwaith...