Llun Yr Haul
Lansiwyd y lloerennau Stereo gan NASA yn 么l yn 2006, dwy loeren mewn perffaith gynghanedd.
Buont yn ymwahanu'n raddol bach dros y blynyddoedd, nes bod y naill un ochr i'r haul, a'r llall yr ochr draw.
Y dydd Sul aeth heibio, am y tro cyntaf erioed, cawsom weld ein haul i gyd, cipolwg ar yr haul pell a thanbaid hwnnw yn ei grynswth.
Mae hyd a lled y dechnoleg a wnaeth y fath daith i ehangder dirfawr y gofod yn bosibl yn ysgytwad i'r meddwl ac mae angen y golwg a'r deall crwn yma arnom er mwyn llawn amgyffred ein haul - a'i hwyliau.
Bydd yr wybodaeth a ddaw o'r lloerennau yn dyfnhau ein deall o batrymau tywydd y gofod, a hynny'n gymorth mawr i gwmn茂au ynni, awyrennau a lloerennau.
Rhyfeddu hyd bendro
Mae'r delweddau'n wych, ac yn peri i ddyn ryfeddu hyd at bendro ond yn gysgod dros y cyfan mae'r ffaith fod taith ymchwil y lloerennau hyn wedi costio triliynau o ddoleri ac os na allaf edrych ar yr haul heb ymddallu ni allaf feddwl am y fath wariant heb ymddrysu.
Gwariwyd y triliynau o ddoleri i anfon y lloerennau hyn at yr haul o fyd lle mae dwy ran o dair o bobl yn dihoeni byw mewn tlodi ac afiechyd.
Gwariwyd triliynau o ddoleri er mwyn cael ehangu ein deall o'r haul tra bo ymchwil meddygol yn crafu elusen a chrefu am nawdd i ehangu ein deall o glefydon fel cancr, MND, ac Altzheimers.
Buasai modd dileu bilharzia a malaria pe byddai'r adnoddau ariannol ar gael.
Gogwydd gwario
Nid ymwrthod 芒 datblygiad technolegol mohonof, dim ond gofyn a yw gogwydd ein datblygiad technolegol yn iach.
Ydi, mae'r ffaith fod ehangu mawr wedi bod yr wythnos hon ar ein deall o'r haul a'i hwyliau yn newyddion da ond llawenach newyddion o lawer fuasai cyhoeddi fod llai o bobl yn llusgo byw mewn tlodi, afiechyd ac anwybodaeth. Ar 么l gwella'n byd y dylid chwilota'r s锚r, am wn i.