Rhoi eraill yn gyntaf
Yr wythnos ddiwetha ma roedd 'na luniau trawiadol iawn yn y wasg ac ar y teledu. Roedd a wnelo pob un a'r llifogydd mawr brawychus yn Queensland, Awstralia.
Mae 'na rai ohonyn nhw'n dal yn fyw o flaen fy llygaid i.
Roedd un wedi ei gymryd o bell o helicopter ac yn dangos aceri lawer o dd诺r du ac ambell i frigyn o ben coeden.
Ynghanol y d诺r roedd na smotyn bach gwyn, a dyma'r helicopter i lawr i gael gweld ac yno yn y d诺r roedd car gwyn ac yn eistedd ar ei do 诺r a gwraig a phlentyn tua deg oed.
Yn y man fe lwyddwyd i achub y fam a'r plentyn, ond roedd y tad wedi ei gipio i ffwrdd gan y d诺r.
Achub ei frawd
Llun mawr ar dudalen flaen papur newydd oedd y llall -bachgen ifanc del, pryd golau, yn 13 oed oedd o a'r papur newydd yn ei alw yn arwr.
Y stori oedd bod dau frawd yn y d诺r, a dyma hen 诺r mewn dipyn o oed yn neidio i mewn i'w helpu, a dyma'r bachgen yna yn gweiddi arno i achub ei frawd yn gyntaf a dyna ddigwyddodd.
Neidiodd y fam ymlaen wedyn i geisio achub ei mab arall, ond fe gollwyd y ddau.
Dyma arwyr mewn gwirionedd - y tad ar ben y car wedi cael ffordd i achub ei wraig a'i fab ond yn colli ei fywyd ei hun. A'r bachgen a'i fam yn colli eu bywydau am iddo ofalu am ei frawd yn gyntaf.
Peth amheuthun iawn yw gweld pobl mewn argyfwng angheuol yn gweithredu mor anhunanol - a hynny mewn byd lle mae pawb drosto'i hun ac yn ddibris iawn o angen pobl eraill.