Araf y ticia'r cloc . . .
Bore ddoe derbyniais anrheg oddi wrth fyfyriwr ymchwil o Sbaen. Mae'n amlwg imi ddangos ychydig o syndod o dderbyn anrheg Nadolig mor hwyr gan iddo deimlo bod angen egluro nad Dydd Nadolig yw'r diwrnod i gyflwyno anrhegion ond, yn hytrach, yfory, Yr Ystwyll, sef dydd cyrhaeddiad y doethion 芒'u haur, thus a myrr.
Bu'n disgrifio sut, yn Sbaen, ceir dathliadau ysblennydd, gyda'r doethion yn gorymdeithio ar hyd y strydoedd - ar gefn ceffylau, 'roedd yn cyfaddef, yn hytrach na chamelod! - a'r plant yn cynhyrfu wrth eu gweld yn dod 芒'r anrhegion.
Anrheg i bawb
Ar gychwyn 2011 cawsom ninnau anrheg - 12 mis, 52 wythnos, 365 dydd, 8,760 awr, 525, 600 munud a 31, 536, 000 eiliad!
Ni wnaethom ddim i haeddu'r anrheg. Ni fu inni weithio amdani, ni fu inni ei phrynu chwaith.
Nid rhodd unigryw i ni yw ychwaith; fe'i rhoddwyd i bob person ar y blaned - y tlawd a'r cyfoethog, yr hyddysg a'r anllythrennog, y cryf a'r gwan, gwryw a benyw, oedolyn a phlentyn.
Fedrwn ni ddim stopio amser; fedrwn ni ddim ei arafu, ei droi bant na newid ei rediad. Ymlaen yr 芒 - eiliad ar 么l eiliad.
Fedrwn ni ddim dod ag amser yn 么l. Collwyd ddoe am byth, erys yfory yn ansicr!
Edrychwn ymlaen at ddiwedd blwyddyn heb wybod a gawn ei phrofi. Mae amser yn un o'n meddiannau mwyaf gwerthfawr; gallwn ei wastraffu, gallwn ofidio amdano, gallwn ei wario ar ein hunain neu, fel stiwardiaid da, gallwn ei fuddsoddi.
Yn llawn amser
Mae 2011 yn llawn amser. Wrth i'r eiliadau ddiflannu - mae 120 wedi mynd ers i mi ddechrau siarad - beth wnawn ni 芒'r anrheg? Ei daflu i ffwrdd yn ddi-hid neu gwneud i bob eiliad gyfrif?
Dim ond chi all ateb y cwestiwn yna!