91热爆

Cadw'n gynnes

T芒n cysurus - rhywbeth rhy ddrud i rai

29 Rhagfyr 2010

gan Branwen Niclas

Tlodi tanwydd yn gafael

Ynghanol yr eira a'r tywydd oer yr wythnos diwetha mi dderbyniais i e-bost gan fy nghwmni cyflenwi ynni bod pris fy nwy yn cynyddu 9% a thrydan, 2%.

Er nad oeddwn i'n neidio mewn llawenydd gyda'r newyddion rai dyddiau cyn y Nadolig, ni fydd y t欧 ddim mymryn yn oerach. Dwi'n gweithio'n amser llawn ac yn gallu fforddio talu.

I eraill, mae cynnydd prisiau tanwydd yn golygu pryder gwirioneddol ac mewn achosion mwy difrifol, golyga effaith andwyol ar iechyd pobol.

Yr hen a'r bregus

Yn ei erthygl yn y Guardian ddoe roedd George Monbiot yn trafod tlodi tanwydd a sut mae pobl h欧n a mwy bregus yn ein cymdeithas yn diodde fwyfwy y dyddiau hyn yn yr oerni a phrisiau gwresogi uchel.

Un ffaith syfrdanol ganddo oedd bod mwy o henoed yn marw oherwydd oerni yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn nag yn Siberia.

Toc ar 么l darllen yr erthygl cefais neges destun gan ffrind yn dweud ei bod yn mynd am dro yn y car - roedd hi eisiau gadael y t欧 pan oedd y gwres yn mynd ffwrdd yn y bore ac eisiau dychwelyd pan fyddai'r gwres yn dod mlaen ddiwedd y pnawn.

Allai hi ddim fforddio cadw'r gwres mlaen drwy'r dydd.

Diffinio tlodi tanwydd

Y diffiniad o dlodi tanwydd yw gwario 10% o'ch incwm neu fwy ar gynhesu'r t欧 ar dymheredd rhesymol. Rhwng 2003 a 2008 cynyddodd nifer y cartrefi sy'n diodde o dlodi tanwydd o ddwy filiwn i 4.5 miliwn.

Dywed Brenda Boardman mewn llyfr diweddar, Fixing Fuel Poverty, i dlodi tanwydd godi mor gyflym yng ngweldydd Prydain oherwydd diffyg rheolaeth dros elw a phrisiau'r cwmn茂au ynni, gan mai grym y farchnad sy'n rheoli.

C么t gynnes

Yn 么l ymchwil gan Age UK mae 1.2 miliwn o bobl dros 60 yn dweud mai c么t gynnes fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt y gaeaf hwn.

Wn i ddim sawl un ohonoch sy wedi cael c么t newydd yn anrheg Nadolig neu'n fargen ar y s锚ls; ond mae gan Age UK awgrym ymarferol y gall sawl un ohonom weithredu arni - mynd a hen g么t draw i un o'u siopau.

Ac oes, mae gen innau, rwy'n si诺r, hen gotie yn hel llwch yng nghefn y cwpwrdd dillad - dwi'n mynd adre i chwilio am un.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.