Atgofion mewn cardiau
Aeth tridiau heibio heb i ddyn y post ollwng bwndel o gardiau drwy'n twll llythyron ni. Tridiau! Dyna chi golled!
Effeithiodd y cnwd eira yna a gwympodd am bedair awr arnon ni ddydd Gwener diwethaf ar lawer peth a wyddom ni ddim a fyddwn yn gallu cwblhau ein trefniadau Nadolig.
Ond 'wy wir wedi gweld eisiau'r cardiau, y cyswllt blynyddol 芒 chyfeillion, yr hanesion am hynt a helynt y flwyddyn aeth heibio, y gorfoleddu a'r hiraethu, hanes teuluoedd a'r gobeithion am y flwyddyn sy'n dod.
Yn wir, mae gyda fi gasgliad o gardiau blynyddoedd a fu, rhai 'wy'n eu trysori am wahanol resymau. Rhai wnaed 芒 llaw gan blentyn neu oedolyn, rhai 芒 neges arbennig arnyn nhw neu ddarlun o ddrama'r Geni.
Eisoes cyrhaeddodd sawl Robin Goch, a ffrind wedi ychwanegu at y cyfarchiad, y pennill bach yna:
Robin goch, Robin bach
Dwed a wyt ti'n oer.
Hapus ydwyf fi, Duw sy'n Dad i mi.
Cewch ddweud 芒 chroeso mod i'n sentimental achos mi wn i eich bod chwithau yr un mor sentimental ynghylch pethau eraill.
Yn selog bob blwyddyn
Fe glywais i fod un o'r gwyddonwyr mwyaf huawdl yn erbyn crefydd o unrhyw fath, yn selog, bob blwyddyn yng ngwasanaeth carolau ei eglwys leol a bod ganddo ei resymau digonol dros fynd.
Mae gan y carolau a'r darlleniadau o'r Beibl ar yr adeg hon o'r flwyddyn eu swyn arbennig eu hunain.
Ond 'wy'n crwydro - mo'yn dweud o'n i mor werthfawr yw'r cardiau, yn arbennig y rhai sy'n cyfleu i ni hanes y Geni gan arlunwyr Oesoedd Cred, i'w gweld yn orielau'r byd:
- Y bugeiliaid o gwmpas y preseb gan von Honthorst o'r Uffizi yn Firenze;
- Mair a'r baban gan Giotto yn Eglwys Assisi;
- Angylion lu o waith Fra Angelico yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain;
- Y s锚r-ddewiniaid yn cynnig eu trysorau gan Leonardo da Vinci, eto yn yr Uffizi.
Lle bo twyll a chelwydd
Nonsens, medd llawer. Straeon wedi'u creu. Twyll a chelwydd. Sop sentimental.
Wel, fe wyddom ni lawer iawn am dwyll a chelwydd y dyddiau hyn. Does dim rhaid edrych ymhell a theimlo'ch stumog yn troi wrth sylweddoli pa mor wynebgaled yw rhai na wyddant beth yw gwrido.
O'i gymharu 芒'r holl stwff yna, mae hanes geni Iesu yn dal yn iraidd a ffres. Gallwn fihafio fel Idris yng ngherdd T Gwynn Jones a gweld "dim byd ond coed" ond gallwn hefyd fynd yn ffyddiog i Fethlem gyda'r Ficer Pritchard "i gael gweld ein Prynwr c'redig" - a llawenhau.