91热爆

Angylion yn yr eira

gan Aled Edwards

20 Rhagfyr 2010

Yr holl ffws

Ydach chi wedi sylwi ar yr angylion yn yr eira erbyn hyn?

Mi ges i ddiwrnod i'r brenin ddoe. Efallai taw magwraeth mewn lle fel Trawsfynydd ymysg mynyddoedd Gwynedd sy'n gyfrifol am y peth ond dwi ddim yn deall yr holl ffws yma ynghylch eira.

Os nad oes modd i chi fynd allan - arhoswch adra o flaen t芒n. Os oes modd i chi fynd allan - gwnewch hynny'n ofalus - ond pl卯s, peidiwch 芒 gwneud m么r a mynydd o'r peth.

Pam bod yr holl bapurau yn meddwl bod y byd yn dod i ben os ydi'r eira yn eich rhwystro rhag gwneud ambell beth pan fo'r gaeaf ar ei waethaf? Onid peth felly ydi'r gaeaf?

Tipyn o ymarfer

Beth bynnag, cyn gwneud ychydig o siopa angenrheidiol fe es i'r 'gym' i ymarfer rhywfaint bore ddoe ac fe aeth amser heibio'n gynt oherwydd y rhaglenni a oedd ar y pedwar neu'r pum teledu o'm blaen.

Roeddan nhw fel c么r o angylion a dyna ddewis - gweld rhaglen ar fywyd Cliff Richard neu raglen arall am fywyd a gyrfa George Best.

Ia - George Best enillodd. Beth arall fydda cefnogwr ffyddlon Manchester United yn ei wneud?

Dwi'n ddigon hen i gofio'r helynt ynghylch dirwyn gyrfa George Best i ben. Roedd yna lot o ffws.

Dyn tawel diymhongar o'r enw Matt Busby geisiodd ei orau i gael trefn ar yr athrylith hunan ddinistriol hwnnw o Ogledd Iwerddon.

Ddoe, fe groeswyd trothwy arbennig yn hanes un o glybiau p锚l-droed mwya'r byd. Erbyn hyn, mae Alex Ferguson wedi gwasanaethu'r clwb yn hirach na Matt Busby hyd yn oed.

Er tegwch iddo, fe welodd Ferguson yn dda i ddweud yn gyhoeddus i Busby gyflawni mwy nag o.

Yn eira Munich

Y trychineb mwyaf ofnadwy gyda'r eira'n disgyn ar faes awyr Munich yn 1958 ddygodd dt卯m rhyfeddol y Busby Babes i ben.

Ni ellir ond dyfalu y byddai Busby wedi bod yr un mor llwyddiannus ar bapur a Ferguson oni bai am y noson honno. Lladdwyd wyth chwaraewr ac fe ddygwyd gyrfa dau arall i ben yn eira Munich.

Chwaraewr o'r un cyfnod, Paddy Crerand, ddywedodd nad oedd ganddo gof clywed Busby yn codi ei lais ar unrhyw un - na rhegi ychwaith. Yn wahanol iawn i Ferguson efallai. Roedd golwg ei wyneb yn ddigon.

Os nad ydach chi wedi gweld yr angylion o gwmpas yr eira eleni - peidiwch 芒 phoeni - petha diymhongar ydi angylion - tydy nhw ddim yn hoffi ffws.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.