Ers rhyw bum neu chwe mis bellach mae gen i ddiddordeb newydd. Fel y gw欧r fy nheulu a'm cydweithwyr, hyd syrffed mae'n debyg, dwi wedi dechrau rhedeg.
Dydd Sadwrn diwethaf mi oeddwn i fod i redeg hanner marathon yn Waterford yn Iwerddon.
Ymysg rhedwyr mae Waterford yn enwog am fod ychydig bach yn rhy hir fel hanner marathon a chyda rhyw fath o resymeg Geltaidd mi wnes i feddwl; gan fod hanner marathon Caerdydd eleni yn rhy fyr y byddai rhedeg Waterford hefyd yn gwneud dwy hanner marathon gyfan - os ydach chi'n deall be dwi'n feddwl.
Ond oherwydd y rhew fe drodd hanner marathon Waterford yn fyrrach na'r disgwyl.
Mynd am y llo aur
Toedd dim byd arall i'w wneud felly fbore Sadwrn diwethaf ond mynd i lawr ar gyfer Parkrun Caerdydd am ras gyflym "Pump K" - rhyw dair milltir mewn hen bres.
Mi benderfynais fynd am y llo aur hwnnw ymysg rhedwyr - y "PB" holl bwysig - hynny yw, y "personal best."
Mae rhai yn meddwl fy mod i'n wirion bost yn rhedeg fy oedran i. Fyddwn i ddim yn dymuno rhoi'r argraff i chi'r bore yma fy mod i'n gystadleuol ond mae'n golygu llawer i mi fy mod i'n medru rhedeg tair milltir yn gyflymach r诺an nag ar unrhyw adeg yn fy mywyd. Mewn rhyw 27 munud.
Medru rhedeg a siarad
Ar y daith, mae gen i gyfeillion Cymraeg sydd wedi mynd yn gyflymach na fi: Gwenno, Geoff ac Eirian. Maen nhw'n help.
Mae rhai ohonyn nhw'n medru rhedeg a siarad yr un pryd. Mae jyst anadlu yn ddigon i mi pan dwi'n rhedeg. Mae gen i beiriant bach I-Shuffle sy'n helpu ar rasys hirion drwy chwarae cerddoriaeth.
Dwi wedi canfod gwirionedd mawr mewn bywyd - mae emynau yn gwneud i mi redeg yn araf - mae caneuon Dire Straits, Clapton ac X Factor yn gwneud imi gyflymu.
Weithiau - ar ben bryniau hir - mae'r teclyn bach cerddorol yn ynganu gwirionedd mewn acen Americanaidd "Your battery is low."
"Gwir a leferaist," meddwn innau.
Dilyn 'X-Factor'
Diolch i ryfeddod y teclyn bach dwi wedi llwyddo i wrando ar ganeuon X-Factor am oriau ar y ffordd eleni. Fe fyddwn i wedi cadw Cher ar gyfer uchafbwynt neithiwr ond Matt oedd fy ffefryn.
Tybed, faint ohonon ni fyddai'n dymuno ennill X-Factor? Fe ddywed y broliant bod y sioe yn profi y gall pob un ohonon ni fod yr hyn yr ydan ni'n dymuno'i fod.
Ond na - profi y mae y gall un ymysg cannoedd o filoedd ohonon ni fod yr hyn yr ydan ni'n dymuno ei fod.
Yn y cyfamser, fe all y gweddill ohonon ni fwynhau "PBs" newydd bywyd gyda chymorth ambell gyfaill ac ambell g芒n. Beth amdani?