Blwyddyn wedi Copenhagen
Flwyddyn yn 么l roeddwn i yn oerfel Copenhagen yn mynychu Uwch Gynhadledd y Cenehdloedd Unedig ar Newid HInsawdd.
Eleni mae'r cynrychiolwyr, y lob茂wyr a'r wasg mewn lle tipyn bach cynhesach, yn Cancun, Mecisco.
Yn 么l cyfeillion sydd yna mae'n brofiad hollol wahanol. Awyr las, coed palmwydd a chanolfan gynhadledd ger m么r hyfryd.
Siom oedd canlyniad Copenhagen i ymgyrchwyr oedd yn gofyn am weithredu pendant i daclo newid hinsawdd ond a ddaeth lleoliad newydd a chyfle newydd?
Neu ydi'r gwleidyddion a'r negydwyr wedi aros yn eu hunfan?
Barn nifer yw eu bod yn llusgo'u traed.
Addo arian
Un addewid pendant a wnaed yn Copenhagen oedd cyfrannu 30 biliwn doler o gymorth i wledydd sy'n dioddef waethaf yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd er mwyn eu galluogi i addasu i'r effeithiau.
Ond mae'r rhan fwyaf o'r gwledydd hynny yn dal i ddisgwyl am eu cyfran ddyledus - Bangladesh, y Maldives a Guyana yn eu plith, ac wedi llesio hynny'n glir yr wythnos hon.
Mae'n bosib, ynghanol y trafodaethau cymhleth a dwys, ei bod yn hawdd anghofio beth sy'n ganolog i'r trafodaethau hyn, sef dyfodol bywydau a bywoliaeth miliynau o bobl gyffredin.
Effeithio ar fywoliaeth
Dwi'n cofio ffarmwr gwartheg o dde India, Lalji Bhai yn esbonio y llynedd sut oedd newidiadau eithafol ym mhatrwm y tywydd wedi effeithio ar ei fywoliaeth ef.
"Roedd gan fy nheulu gant o wartheg," meddai wrth gynrychiolwyr Copenhagen. "Erbyn hyn, does ganddo ni ddim un buwch. Mae pob un wedi marw; mae'r tir yn rhy sych a rydyn ni gyd fel teulu wedi gorfod ffoi i'r ddinas."
Mae peidio cyflawni addewidion yn costio bywydau. Mae osgoi penderfyniadau yn costio bywydau.
Sioe ddeifio
Un o'r delweddau mwyaf grymus o drafodaethau Cancun oedd sioe ddeifio Greenpeace ddoe. '
Yr Esblygiad Tawel yw'r teitl ac os oes gennych ddiddordeb, mae ffilm el ar y we.
Roedd Greenpeace wedi gosod 400 o gerfluniau cerrig o bobl naw metr o dan y m么r ger Cancun a deifwyr mewn gwisgoedd arferol yn mynd i lawr i weld y cerfluniau oedd yn ddarlun o'r cymunedau y gellid eu colli petai lefel y m么r yn codi ac i bwysleisio bod 100 miliwn o bobl y byd yn byw ar arfordiroedd bregus.
Os ydi cynrychilowyr Cancun o ddifri am osgoi golygfydd tebyg go iawn mae angen cymryd camau breision ymlaen - a'u hatgoffa falle o chwedl Cantre'r Gwaelod?