91热爆

Rhoi'r bai

gan Elfyn Pritchard
Bore Gwener, Rhagfyr 3 2010

Tynged yr addfwyn rai

Ma hi'n dymor ewyllys da medden nhw. Ydi hi?

Flynyddoedd yn 么l pan oedd adrodd yn adrodd, nid yn llefaru, mi fydde part茂on yn cyflwyno darne dramatig iawn ac un dwi'n gofio ydi addasiad I D Hooson o chwedl Yr Haint, sy'n s么n am ryw aflwydd yn taro'r wlad gan ladd yr anifeiliaid.

Dwi'n cofio dechre dramatig y gerdd:

Trwy'r goedwig werdd a thros y mynydd llwm
Trwy'r dyffryn bras i fyny'r pellaf gwm
Y cerddai'r haint ac angau yn ei g么l.

Roedd pethe mor ddrwg nes i frenin byd natur, y Llew, alw cyfarfod o'r holl anifeiliaid i weld pwy oedd yn gyfrifol, gan ofyn i bawb gyffesu ei bechode.

Mae'r llwynog a'r blaidd, y teigr a'r llewpard yn eu tro yn gwneud hynny gan gyfadde lladd i fwyta.

Ac mae'r brenin yn derbyn hynny gan ei fod o'n lladdwr ei hun. Wedyn mae'r ych yn dod gan gyfadde iddo ddwyn cegied o wair o gae rhyw ffarmwr, dim ond digon i'w gadw'n fyw.

Yn bandemoniwm

A dene hi'n bandemoniwm yn syth, a'r anifeiliaid cryfa'n gweiddi mai ei bechod o oedd wedi dod 芒'r haint i'r wlad. Ac wrth gwrs fo sy'n cael ei ladd yn aberth dros bawb arall.

Y mwyaf diniwed ohonyn nhw.

Heddiw, mae s么n mawr fod haint methdaliad a gorwario yn cerdded trwy y wlad. Mi wyddon ni am y gwario hollol hurt ar ryfeloedd, am y camweinyddu dychrynllyd ym myd y bancie, am y symie enfawr sy'n cael eu talu i rai pobol, ond yr hyn mae anifeiliaid cryfion y wladwriaeth, y cyfoethogion sy'n rheoli wedi ei benderfynu ydi torri ar fudd-daliade, ar daliade plant, ar yr arian mae y gwanaf yn ei gael am mai y nhw sy'n gyfrifol am y gorwario.

Dyna'r drefnrai

Oes, mae ne beth camddefnyddio yn digwydd, wrth gwrs, ac ambell i ych yn dwyn cegied o wair yn ein cymdeithas, ond mewn difri ai y rhain sy'n gyfrifol am y llanast economaidd yden ni ynddi?

Ond fel yna mae hi wedi bod erioed. Un ddaeth i'r byd yn ddiniwed ac a groeshoeliwyd oedd Iesu Grist ac fel mae I D Hooson yn dweud wrth orffen ei gerdd:

A dyna'r drefn yn hyn o fyd
Yr addfwyn rai sy'n dwyn y bai
O hyd o hyd.

Tymor ewyllys da?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.