Llonydd i eneidiau
Mi hoffwn i fynd 芒 chi i Baraguay, Pompeii a Hollywood yn ystod y ddau funud nesaf.
Pam mynd mor bell, tybed? Wel, am nad oes fawr ddim arall ond trefniadau priodas y Tywysog William a Kate Middleton yn hawlio'r penawdau ddydd a nos, a bod gofyn bwrw'r rhwyd ymhellach na'r arfer os ydan ni eisiau dod o hyd i stor茂au eraill.
Druan ohonyn nhw - mae'n debyg na chaiff y ddau fawr o lonydd dros y misoedd nesaf a phob manylyn yn cael sylw hyd syrffed gan y cyfryngau a'u harbenigwyr, wrth i gamer芒u a meicroffonau eu dilyn nhw i bobman.
Roedd hi fymryn bach yn wahanol ddeng mlynedd union yn 么l i heddiw, pan briododd Catherine Zeta Jones aelod o 'deulu brenhinol' Hollywood 芒 Michael Douglas.
Bryd hynny, mi benderfynodd y p芒r wahardd y camer芒u o'u priodas, ac eithrio rhai cylchgrawn go enwog. Roedden nhw dipyn cyfoethocach o wneud hynny, fel y g诺yr pawb, ond o leiaf mi gawson nhw lonydd i fwynhau eu diwrnod arbennig.
Go brin y caiff Wills a Kate wneud hynny.
Addo llonydd
Llonydd ydi'r hyn y mae llwyth yr Ayoreo wedi gofyn amdano hefyd ym mhellafoedd Paraguay, a dyna a gawn nhw am ryw hyd, diolch i benderfyniad yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain i beidio treiddio i'w tiriogaeth nhw.
Yr Ayoreo ydi un o'r llwythi helwyr-gasglwyr olaf sy'n bod nad ydyn nhw mewn cysylltiad 芒'r byd y tu allan. Er y byddai'r Amgueddfa'n hoffi dod i wybod rhagor am yr Ayoreo a'u cynefin, y perygl mawr ydi y byddai pobl o'r tu allan yn cario heintiau nad ydi'r llwyth wedi gorfod dygymod 芒 nhw o'r blaen.
Diolch i'r drefn, mae'r amgueddfa'n fodlon rhoi llonydd iddyn nhw.
Dan y llwch
Draw yn Pompeii yn yr Eidal ddechrau'r mis, efallai i chi glywed fod un o adfeilion y dref enwog hon wedi cwympo a hynny, mae'n debyg, gan nad ydi'r ceidwaid yn gallu fforddio cynnal a chadw'r safle fel y dylen nhw.
Dros ddwy fil o flynyddoedd yn 么l, mi ddifrododd llosgfynydd Vesuvius y ddinas, gan guddio'r adeiladau a'r trigolion dan orchudd o ludw.
Yr eironi ydi fod yr adfeilion wedi goroesi am ganrifoedd dan y llwch, ond o ymyrryd 芒 nhw a'u datguddio mae'r brics a morter wedi dechrau breuo a rhannau o'r ddinas yn debyg o gael eu colli eto.
Dysgu gwers
Does dim angen edrych yn bell iawn i'r gorffennol i weld beth ddigwyddodd pan na wrandawyd ar ap锚l aelod o'r teulu brenhinol am lonydd.
Yng nghanol syrcas y cyfryngau, mae rhywun yn gobeithio nad yr un fydd tynged y diweddaraf i ymuno 芒'r Teulu Brenhinol.
A dyna rywbeth inni feddwl amdano y tro nesaf y clywn ni ohebwyr ein gorsafoedd newyddion pedair awr ar hugain yn holi ewythr chwaer-yng-nghyfraith mam cyn-ddarlithydd William a Kate am eu hatgofion niwlog amdanyn nhw.