Rhwng dau gae
Wrth fodio drwy dudalennau'r Western Mail ddoe dyma ddod ar draws dau lun o ddau stadiwm neu faes chwaraeon.
Y naill yng Nghaerdydd a'r llall yn Abertawe. Y naill oedd Stadiwm y Mileniwm, sef cartref t卯m rygbi Cymru a'r llall oedd Cae'r Vetch, hen gartref t卯m p锚l-droed Dinas Abertawe.
Yn y naill lun, goleuwyd Stadiwm y Mileniwm 芒 goleuadau glas llachar er mwyn tynnu sylw at ddiwrnod byd-eang Clefyd y Siwgr - un ymhlith nifer o adeiladau enwog ledled y byd a oleuwyd yn las ar Dachwedd 14 gan gynnwys y T欧 Opera yn Sydney, Awstralia.
Popeth ond goleuni
Ond nid goleuadau lliwgar yn taflu delweddau llachar oedd yn nodweddi'r ail lun. Yn wir, roedd y llun o Gae'r Vetch yn bopeth ond goleuni a bywyd.
Gyda'r pyst g么l yn dechrau rhydu, yr eisteddleoedd yn ddi-raen, yr hen 'north bank' yn ddim byd ond cysgod o'r hyn a fu, a'r cae wedi tyfu'n wyllt o chwyn - mae'n anodd credu mai hwn, ar un adeg, oedd cae breuddwydion miloedd ar filoedd o gefnogwyr y Swans.
Yma bu'r brodyr Ivor a Len Allchurch a Cliff Jones yn chwarae, heb s么n am John Toshack yn arwain ei d卯m i'r adran gyntaf!
Ond erbyn heddi, a Chyngor Tref Abertawre'n methu'n deg a dod o hyd i brynwr I'r safle, does yno ddim byd ond rh诺d yn bwyta'r haearn, a chwyn yn tagu'r ddaear.
Ni welir fyth eto Gae'r Vetch yn cael ei adfer i'w bwrpas gwreiddiol oherwydd bod t卯m Abertawe wedi symud ymlaen i dir gwell Stadiwm y Liberty.
Ie, fe fydd y rhwd yn dal i ddangos ei ddannedd a'r chwyn yn dal i dyfu ar y Vetch.
Tagu bywyd
Mae 'na chwyn o fath arall i'w cael heddi sy'n tagu llawer mwy na hen gae p锚l-droed. Chwyn sy'n tagu bywyd.
Chwyn ein heiddigeddau ni, a'n casinebau ni. Chwyn ein trachwant a'n hunanoldeb.
Onid yw hi'n bryd inni fynd ati i glirio'r chwyn sy'n tagu bywyd heddiw er mwyn gweld y byd hwn yn cael ei adfer i'r hyn y bwriadwyd iddo fod - byd lle mae tegwch a chyfiawnder, heddwch a maddeuant yn teyrnasu.
Fel y gwelwn ym mhob llun, ledled byd, oleuni a fydd yn adlewyrchu bywyd llon a llawen.